Angen i'r Gymraeg fod yn 'rhan naturiol o fywyd bob dydd' i ffynnu

23/03/2026
Cymraeg

Mae angen i'r iaith Gymraeg fod yn 'rhan naturiol o fywyd bob dydd' i ffynnu, yn ôl adroddiad newydd. 

Mae'r adroddiad gan y Comisiwn Cymunedau Cymraeg yn dweud fod buddsoddi yn y gofodau "cymdeithasol, diwylliannol a digidol" sydd yn siapio sut mae pobl yn byw ac yn cysylltu â'i gilydd yn hollbwysig.

Yn ôl y Comisiwn, byddai buddsoddi yn y meysydd hyn yn sicrhau fod modd defnyddio'r Gymraeg mewn bywyd bob dydd "y tu hwnt i fyd addysg".

Fe gafodd y Comisiwn Cymunedau Cymraeg ei sefydlu gan Lywodraeth Cymru, ac mae'r adroddiad yn canolbwyntio ar gymunedau lle mae llai na 40% o bobl yn siarad Cymraeg. 

Mae'r adroddiad yn archwilio sut gall yr iaith ddod yn rhan gryfach o fywyd bob dydd yn yr ardaloedd hyn. 

Yn ôl yr adroddiad, fe ddylid cryfhau'r iaith mewn lleoliadau cymunedol, gan gynnwys o fewn teuluoedd, gweithleoedd, darpariaeth ieuenctid, chwaraeon a diwylliant, er mwyn ychwanegu at gyfraniad y system addysg.

'Iaith gymunedol ym mhob cymuned'

Ychwanegodd yr adroddiad na ddylai addysg "ysgwyddo'r holl gyfrifoldeb" o ran dyfodol yr iaith, a bod angen i bobl ifanc gael cyfle i brofi'r Gymraeg "y tu hwnt i giatiau'r ysgol".

Mae'r Comisiwn yn argymell sefydlu cronfa bwrpasol i dyfu presenoldeb Cymraeg ar-lein, gyda chefnogaeth i bobl ifanc sy'n creu cynnwys digidol yn yr iaith yn rhan o hyn.

Daw'r adroddiad diweddaraf yn dilyn cyhoeddiad cyntaf y Comisiwn a gafodd ei gyhoeddi ym mis Awst 2024, a oedd yn canolbwyntio ar gymunedau Cymraeg dwysedd uwch. 

Dywedodd Cyd-gadeirydd y Comisiwn, Dr Simon Brooks: "Er mwyn sicrhau bod y Gymraeg yn iaith genedlaethol sy'n perthyn i ni i gyd, rhaid sicrhau ei dyfodol fel iaith gymunedol ym mhob cymuned yng Nghymru. 

"Gyda'i gilydd, mae dau gam gwaith y Comisiwn bellach yn gosod sylfaen gynhwysfawr, yn seiliedig ar dystiolaeth, ar gyfer y dasg honno. Rwy'n annog Llywodraeth nesaf Cymru i weithredu ar ein hargymhellion gyda'r uchelgais y mae'r iaith yn ei haeddu."

'Absennol'

Ychwanegodd Cyd-gadeirydd y Comisiwn, yr Athro Elin Haf Gruffydd Jones: "Wrth i ni wneud ein gwaith fe welson ni awydd go iawn i ddefnyddio'r Gymraeg, ond bod y gofodau i wneud hynny yn rhy aml yn absennol.

"Mae ychydig dros hanner yr holl siaradwyr Cymraeg yn byw mewn ardaloedd ble mae llai na 40% o’r boblogaeth yn siarad Cymraeg.  

"Mae’n rhaid i bolisi cyhoeddus ganolbwyntio ar greu amodau llawer mwy ffafriol i fedru creu dyfodol ffyniannus i’r Gymraeg fel iaith gymunedol, gyda buddsoddiad gwirioneddol yn y gofodau cymdeithasol, diwylliannol a digidol lle mae pobl yn treulio eu hamser."

Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a'r Gymraeg, Mark Drakeford: "Mae’r datblygiadau deddfwriaethol a pholisi yr ydym wedi eu cyflwyno dros y pum mlynedd diwethaf, gan gynnwys Deddf y Gymraeg ac Addysg, wedi creu yr amodau ar gyfer twf hirdymor y Gymraeg ac ar gyfer sicrhau bod cyfle teg i bawb ddod yn siaradwyr Cymraeg annibynnol a hyderus.

“Mae cynnydd gwirioneddol eisoes yn cael ei wneud o ran gweithredu argymhellion y Comisiwn, gyda 17 o argymhellion yr adroddiad cyntaf eisoes wedi'u gweithredu o fewn tymor y Senedd hwn. Mae'r adroddiad yr ail gam yn gosod sylfaen i adeiladu ar y momentwm a sicrhau dyfodol Cymraeg ffyniannus i bob cymuned yng Nghymru."

Wrth ymateb i'r adroddiad, dywedodd Owain Meirion, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith: "Rydym yn croesawu ail adroddiad y Comisiwn Cymunedau Cymraeg er mwyn cryfhau'r Gymraeg o fewn cymunedau yng Nghymru lle nad yw'r iaith yn un gymunedol.

"O roi mynediad teg i ddarpariaeth blynyddoedd cynnar Gymraeg, cynyddu'r defnydd o Gymraeg mewn chwaraeon a chynyddu defnydd a gwelededd y Gymraeg yn y byd digidol, mae'n ddarn o waith dadansoddi sy'n gosod argymhellion clir i lywodraeth nesaf Cymru.

"Mae hi'n allweddol i ddyfodol y Gymraeg fod pwy bynnag sy'n ffurfio'r llywodraeth wedi'r etholiad fis Mai i fynd ati yn syth i ddechrau'r gwaith o weithredu holl argymhellion yr adroddiad yma er mwyn rhoi'r Gymraeg i bawb sy'n byw yng Nghymru, yn ogystal â rhaglen bolisi ehangach i adfywio'r iaith. 

"Yn sicr, allwn ni ddim fforddio'r un oedi ag yr ydym wedi'i weld gan y llywodraeth bresennol gydag argymhellion yr adroddiad cyntaf."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.