Teyrngedau i blismon a fu farw yn dilyn gwrthdrawiad car
Mae teyrngedau wedi eu rhoi i blismon a fu farw yn dilyn gwrthdrawiad car tra'n ymateb i "alwad frys".
Mae plismon arall yn yr ysbyty mewn cyflwr difrifol yn dilyn y gwrthdrawiad yng Nghaint.
Mae aelod o'r cyhoedd a oedd yn yr ail gerbyd yn derbyn triniaeth ar gyfer anafiadau difrifol yn ôl Heddlu Caint.
Digwyddodd y gwrthdrawiad ger Farningham ddydd Iau a bu farw'r plismon Bradley Corke, 27 oed, ddydd Sadwrn.
Fe wnaeth car heddlu Ford Focus a char Volkswagen wrthdaro ar ffordd yr A20 am tua 19:45.
Roedd y swyddogion wedi bod yn teithio i ddigwyddiad brys gerllaw yn ôl Ffederasiwn Heddlu Caint.
Mewn datganiad ddydd Sul, dywedodd Heddlu Caint: "Bu farw Bradley wrth geisio achub bywydau eraill oedd mewn perygl.
"Ni fydd ei ddewrder, ymroddiad a'i angerdd at helpu eraill yn cael ei anghofio."
Ychwanegodd y llu eu bod yn "cefnogi ei deulu a'i gyd-weithwyr, sydd wedi eu llorio."
Dywedodd Neil Mennie, cadeirydd Ffederasiwn Heddlu Caint: "Mae ein calonnau ni i gyd wedi eu torri o glywed y newyddion.
"Roedd Bradley yn gydweithiwr poblogaidd a fydd yn cael ei golli'n fawr ac fe fyddwn ni'n gwneud popeth o fewn ein gallu i gefnogi ei deulu a'i gydweithwyr.
"Mae plismona yn deulu ac ni all geiriau ddisgrifio’r boen rydyn ni i gyd yn ei deimlo, a sut y bydd y newyddion hwn yn effeithio arnom ni yn y dyddiau, yr wythnosau a’r misoedd nesaf."