Gwasanaethau brys yn ymateb i dân sylweddol yng Nghaernarfon
Gwasanaethau brys yn ymateb i dân sylweddol yng Nghaernarfon
Mae'r gwasanaethau brys wedi ymateb i dân sylweddol mewn adeilad yng Nghaernarfon.
Mae sawl fideo ar y cyfryngau cymdeithasol yn dangos tân yn llosgi mewn adeilad dros ffordd i Dafarn y Porth ar Stryd y Porth Mawr yn y dref nos Wener.
Mae'r fideo yn dangos fflamau'n codi o flaen yr adeilad.
Mae'r gwasanaethau brys bellach yn y lleoliad, ac mae'n ymddangos fod y tân dan reolaeth.
Nid oes adroddiadau hyd yma fod neb wedi eu hanafu.
Mae Newyddion S4C wedi cysylltu â Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru a Heddlu'r Gogledd am ragor o wybodaeth.
Rhagor i ddilyn
