Mis prysuraf erioed i dîm achub mynydd yn Eryri
Mae aelodau tîm achub mynydd yn ardal Eryri wedi wynebu eu mis prysuraf ar gyfnod.
Mis Awst oedd y mis prysuraf ers dechrau cadw cofnodion o argyfyngau.
Derbyniodd y criw 49 o alwadau fis diwethaf, gyda’r cyfanswm o alwadau yn 2021 bellach yn 158.
Mae’r tîm wedi derbyn tair galwad yn barod y mis yma.
Ddydd Mercher, bu’n rhaid i’r criw achub pedwar o gerddwyr oddi ar Glogwyn Mawr wrth iddynt geisio cyrraedd eu car ym Mwlch Llanberis.
Cafodd tîm o wyth ei anfon i gynorthwyo, gyda chymorth Uned Drôn Heddlu Gogledd Cymru.
Cafodd y pedwar dyn eu gostwng i fan diogel.
Mae Tîm Achub Mynydd Llanberis yn sefydliad cwbl wirfoddol sy’n ymateb i alwadau yn ardal Eryri a mynyddoedd cyfagos.
Mae’r tîm ar gael ar alwad 24 awr y dydd a hynny drwy gydol y flwyddyn.
Llun: Tîm Achub Mynydd Llanberis