Cwpl o Aberystwyth yn mynd i Affganistan i gynnig cymorth meddygol

Mae perchnogion busnes o Aberystwyth wedi penderfynu teithio i Affganistan er mwyn darparu cymorth meddygol yno.
Yn ôl y Cambrian News, roedd disgwyl i Sándor a Kata, sydd yn rhedeg bwyty Hwngaraidd yn y dref, deithio i'r wlad ddydd Mercher.
Er bod y cwpl wedi teithio er mwyn darparu cymorth meddygol i wledydd megis Senegal yn y gorffennol, dyma'r tro cyntaf iddyn nhw deithio ar ben eu hunain heb gymorth asiantaethau eraill.
"Dydyn ni ddim yn gwneud hyn ar gyfer arian, neu'r diolch, nac ar gyfer marchnata - ond eisiau helpu yda ni," dywedodd Sándor, sydd wedi'i hyfforddi fel meddyg.
"Yn flaenorol, roedd y Cenhedloedd Unedig, y fyddin o'r UDA, a llywodraethau eraill yno i'n helpu. Nawr, does neb yno - 'da ni ar ben ein hunain.
"Dyden ni ddim yn mynd â chamera, ffonau nac ychwaith cotiau gyda ni - dim ond crysau yn dweud 'Doctor' ar y cefn."
Darllenwch y stori'n llawn yma.
Llun: Masoud Akbari