Rhybudd am gynnydd mewn dwyn olew tanwydd yng Ngwynedd a Môn

Olew tanwydd

Mae’r heddlu wedi rhybuddio am gynnydd mewn dwyn olew tanwydd yng Ngwynedd ac Ynys Môn.

Dywedodd yr heddlu eu bod nhw wedi derbyn adroddiadau am ladradau o ardaloedd Caernarfon, Pwllheli, Cricieth, Amlwch a Rhosneigr.

Mae pris olew tanwydd wedi cynyddu’n gyflym dros yr wythnosau diwethaf, gyda phris olew crai yn cynyddu i bron i $114 y gasgen dros nos.

Mae hynny wedi digwydd yn bennaf am fod Culfor Hormuz ynghau yn sgil y rhyfel rhwng America ac Israel ag Iran - gyda bron i 20% o holl gyflenwadau olew y byd yn arfer cael eu cludo drwy'r dyfroedd hynny. 

Mae’ Heddlu’r Gogledd yn awgrymu i berchnogion tanciau olew gymryd camau ychwanegol i atal lladradau, gan gynnwys cuddio lleoliad y tanc, a rhoi clo ar gap y tanc olew.

Maen nhw hefyd yn awgrymu gosod gatiau y mae modd eu cloi, a mesurydd electronig sy’n rhoi gwybod pan bod lefel yr olew yn gostwng.

Mae gosod goleuadau diogelwch ger lleoliad y tanc olew, a chamerâu teledu cylch cyfyng yn awgrymiadau pellach.

Maen nhw’n dweud y dylai unrhyw un sydd â gwybodaeth am ladradau olew i gysylltu â nhw drwy eu gwefan, drwy ffonio 101, neu’n ddienw drwy Crimestoppers.

'Annerbyniol'

Ddydd Llun cyhoeddodd y Prif Weinidog Keir Stamer ei fod yn rhoi £3.8 miliwn i'r llywodraeth ym Mae Caerdydd i helpu'r aelwydydd mwyaf bregus gyda'r cynnydd ym mhris olew.

Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru brynhawn Mercher y bydd yn cynyddu "ar unwaith" swm y cyllid sydd ar gael ar gyfer olew gwresogi.

Mae'r swm sydd ar gael fesul dyfarniad ar gyfer olew gwresogi yn cael ei godi dros dro o £500 i £750, tra bo'r prisiau'n uwch.

Dywedodd Syr Keir Starmer ei fod yn pryderu ynghylch honiadau fod rhai cyflenwyr olew i'r cartref wedi canslo archebion, cyn codi tâl sylweddol uwch ar gwsmeriaid.   

“Wna i ddim caniatáu i gwmniau wneud elw anferthol ar draul sefyllfa anodd bobl sy'n gweithio” meddai. 

“Mae'r math hwnnw o ymddygiad yn hollol annerbyniol, felly os yw cwmniau wedi torri'r gyfraith, bydd y gyfraith yn delio â hynny,” ychwanegodd.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.