Tymheredd uchaf y DU ger Aberystwyth ar ddiwrnod poetha'r flwyddyn hyd yma

Aberystwyth

Yng Ngogerddan ar gyrion Aberystwyth roedd hi boethaf yn y Deyrnas Unedig ddydd Mercher wedi i'r tymheredd godi i 20.9C. 

Dyma'r diwrnod cynhesaf eleni, hyd yn hyn.  

Ac roedd Porthmadog yng Ngwynedd a Thrawsgoed i'r de o Aberystwyth ymhlith yr ardaloedd poethaf hefyd sef 20.1C ac 19.5C am 14:00.

Yn ol Grahame Madge o'r Swyddfa Dywydd, mae'r tymheredd wedi codi'n sydyn oherwydd aer poeth sydd wedi ymledu o'r de. 

Ond does dim disgwyl iddi barhau yn gynnes.  

Ychwanegodd Mr Madge: "Rydym yn aml yn gweld hyn yr adeg hon o'r flwyddyn. Ond rwy'n credu mai dyma fydd y tymheredd uchaf am y tro - dydyn ni ddim yn disgwyl record arall yn yr wythnosau nesaf."  

Ond a hithau'n gynnar yn y gwanwyn, mae disgwyl i'r tymheredd ddisgyn dipyn dros nos, gyda llwydrew mewn ambell ardal.  

Yn nhermau meteorolegol yn y Deyrnas Unedig, mae'r gwanwyn yn dechrau ar 1 Mawrth ac yn gorffen ar 31 Mai. 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.