Ironman Abertawe: Cwest yn clywed fod dyn wedi marw o ataliad ar y galon

Sam Buchan

Mae cwest wedi clywed fod dyn wedi marw o ataliad ar y galon ar ôl mynd i drafferthion yn ystod cystadleuaeth Ironman yn Abertawe. 

Roedd Sam Buchan, 31 oed, tua 0.6 milltir (1km) i mewn i gymal nofio ras Ironman 70.3 ar 13 Gorffennaf y llynedd ym Marina Abertawe pan gafodd ei achub o'r dŵr.

Clywodd y cwest yn Abertawe ddydd Mercher fod y tad i un o ddinas Aberdeen yn yr Alban wedi cael ei dynnu ar gwch cymorth a chael ei adfywio ceg i geg.

Cafodd Mr Buchan ei drosglwyddo i Ysbyty Treforys yn Abertawe, ond bu farw ar 16 Gorffennaf ar ôl i'w gymorth bywyd gael ei ddiffodd.

Daeth archwiliad post-mortem i'r casgliad ei fod wedi marw o "anoxic ischemic encephalopathy (anaf difrifol i'r ymennydd), ataliad ar y galon y tu allan i’r ysbyty a strôc gwres yn ystod digwyddiad chwaraeon".

Roedd Mr Buchan, a oedd yn gweithio fel peiriannydd yn niwydiant olew a nwy Môr y Gogledd, wedi teithio i Abertawe gyda’i deulu ar gyfer y digwyddiad.

Mae’r gystadleuaeth yn cynnwys nofio am 1.2 milltir (1.9km) yn Noc Tywysog Cymru, cyn beicio am 56 milltir (90km) trwy’r Mwmbwls ac ar hyd clogwyni Gŵyr sy’n dod nôl i Abertawe am ras redeg 13.1 milltir (21.1km).

Dywedodd ei wraig Samantha Buchan wrth y cwest nad oedd gan ei gŵr hanes o broblemau meddygol ar wahân i asthma a chlefyd y gwair, a’i fod wedi bod yn hyfforddi ar gyfer y digwyddiad ers 12 mis.

"Roedd Sam yn berson actif a chyfeillgar iawn a dreuliodd ei amser hamdden yn rhoi cynnig ar hobïau newydd, fel heicio, syrffio, rhostio ei goffi ei hun, coginio, codi pwysau, rhedeg a beicio," meddai Mrs Buchan.

"Cymerodd ran mewn nifer o ddigwyddiadau fel rasys 10K, hanner marathonau a llawer o rai eraill drwy gydol ei oes.

"Roedd wedi adeiladu i fyny at yr Ironman, a gafodd ei ymchwilio, ei gofio a’i hyfforddi’n drylwyr am dros flwyddyn."

'Pryderon difrifol'

Dywedodd Mrs Buchan nad oedd hi yn y digwyddiad yn bersonol, ond ei bod yn dilyn ei gynnydd drwy Ironman.

"Cefais alwad ffôn am 08.55 gan Ironman i’m hysbysu bod Sam wedi cael ataliad ar y galon yn y dŵr ac ei fod bellach ar ei ffordd i Ysbyty Morriston," meddai.

Y diwrnod canlynol, cafodd Mrs Buchan wybod fod ei gŵr yn dangos arwyddion sylweddol o niwed parhaol i'r ymennydd. Bu farw yn oriau mân 16 Gorffennaf.

Ychwanegodd: "Mae gen i bryderon difrifol am yr amser a gymerodd i Sam dderbyn cymorth cyntaf.

"O’r gwahanol straeon a ddywedwyd wrthyf y diwrnod hwnnw, cymerodd rhwng 10 a 30 munud i gael Sam o’r dŵr ac i ddechrau cywasgiadau’r frest.

"Mae'n ymddangos fod y cymorth cyntaf wedi bod yn wych pan gyrhaeddodd Sam y babell feddygol. Ond byddai’r amser a gymerodd i’w gael yno wedi achosi ei farwolaeth. Rwy’n teimlo bod Ironman wedi’i fethu wrth ddarparu cymorth cyntaf priodol."

Ychwanegodd: "Dylai Sam fod wedi deffro o hyn yn feddygol. Ond yn anffodus, oherwydd yr amser y bu ei ymennydd yn brin o ocsigen, mae bellach wedi colli ei fywyd cyfan. Ni fydd ei ferch ddwyflwydd oed yn cael tyfu i fyny gydag ef, ac mae’r teulu cyfan wedi torri.

"Ni all dim newid yn ein sefyllfa ni, ond rwy’n gobeithio y bydd modd rhoi protocolau a chyfarpar diogelwch gwell ar waith yn y dyfodol, fel na fydd yn rhaid i unrhyw deulu arall fynd trwy hyn eto."

Clywodd y cwest dystiolaeth gan wahanol bobl a oedd yn rhan o achub Mr Buchan ei bod wedi cymryd tua thair munud a hanner o'i weld mewn trafferth yn y dŵr am y tro cyntaf i gyrraedd yr orsaf feddygol.

Mae'r cwest yn parhau.

 

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.