Dwy ysgol yng Nghaerdydd i barhau ar gau wedi bygythiad

17/03/2026
Ysgol Uwchradd y Dwyrain / Ysgol Uwchradd Llanisen

Mae dwy o ysgolion uwchradd Caerdydd yn parhau ar gau ddydd Mawrth, wedi i Heddlu De Cymru ymchwilio i wybodaeth ddaeth i law swyddogion nos Sul.

Yn ôl y llu, daeth penderfyniad i gau Ysgol Uwchradd Llanisien ac ysgol Eastern High School fel cam diogelwch tra bod ymchwiliadau'n parhau.

Brynhawn Mawrth, dywedodd yr heddlu eu bod o'r farn mai cyfathrebu maleisus yw gwraidd eu hymchwiliad.   

Daeth gwybodaeth i law am 20:30 nos Sul, 15 Mawrth yn ymwneud â bygythiadau ar-lein. 

Mae'n ymddangos fod unigolyn yn bwriadu mynd i'r ysgolion gydag arfau, yn ôl y llu.   

Datgelodd yr heddlu brynhawn Mawrth fod adroddiadau eraill wedi eu derbyn yn hwyr nos Lun yn ymwneud ag Ysgol Uwchradd Sant Illtyd yn Nhredelerch, Caerdydd.  

Mae'r heddlu'n dweud fod ymchwiliad trylwyr yn cael ei gynnal er mwyn asesu pa mor gredadwy oedd yr holl fygythiadau.

Cafodd rhoi o'u harchwiliadau eu cynnal hyd at oriau mân fore Mawrth.   

Maen nhw'n pwysleiso nad oes tystiolaeth fod unrhyw un wedi mynd i'r ysgolion dan sylw yn ymddwyn yn fygythiol. 

Daeth penderfyniad i gau'r ysgolion wedi trafodaethau rhwng yr heddlu a Chyngor Caerdydd.

Mae Newyddion S4C yn deall fod penderfyniad wedi ei wneud i ailagor Ysgol Uwchradd Llanisien ac Eastern High ddydd Mercher, er mwyn i athrawon gael cyfle ddydd Mawrth i baratoi cynlluniau ar gyfer y disgyblion yn dychwelyd y diwrnod canlynol.

Mae'r heddlu wedi diolch i'r ysgolion dan sylw, y rhieni a'r gymuned yn ehangach am eu cefnogaeth a'u dealltwriaeth.  

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.