Athrawon eisiau canolbwyntio ar iechyd a lles wrth ddychwelyd nôl i'r ysgol

Athrawon eisiau canolbwyntio ar iechyd a lles wrth ddychwelyd nôl i'r ysgol
Dros y dyddiau nesaf mi fydd miloedd o ddisgyblion yn dychwelyd i’r ystafell ddosbarth.
Ond wedi blwyddyn heriol oherwydd y pandemig dyw nifer o ddisgyblion blwyddyn 6 heb gael profiad ‘pontio’ neu ‘trosglwyddo’ rhwng eu hysgol gynradd ac uwchradd.
Mae’n rhaid felly canolbwyntio ar sicrhau fod disgyblion sy’n dychwelyd yn gyfforddus, yn ôl un athrawes.
Yn Ysgol Maes Garmon, mae staff yn edrych ymlaen at groesawu dros gant o ddisgyblion blwyddyn saith newydd, ynghyd â disgyblion y chweched dosbarth fore Gwener.
Mae Ms Llinos Ann Cleary, aelod o’r Tîm Rheoli Trosglwyddo, eisiau canolbwyntio ar iechyd a lles y plant eleni, yn enwedig y rhai newydd.
Ond oherwydd y pandemig dyw’r trefniadau pontio arferol heb allu digwydd a hynny’n golygu fod diwrnod cyntaf y tymor yn allweddol.
“Yn amlwg mae ‘na am fod lot o blant nerfus ac efallai yn fwy, rhieni nerfus.
“Dydi trosglwyddo ddim wedi bod fel yr arfer. Fel arfer fasa ‘na drip i Langrannog a fyddai plant yn cael dod yma am ddau ddiwrnod.
“Mae gynno ni griw trochi a fyddai nhw wedi bod yma am wythnos”, meddai.
“Mae nhw wedi colli allan do, ond da ni wedi cael cyfle i fynd i weld nhw yn eu hysgolion a mae ‘na blant bregus wedi dod rownd yr ysgol i gael rhagflas cyn cyrraedd felly fory- diwrnod hwyl, ymgartrefu, gwneud ffrindiau a dod i adnabod tiwtoriaid.”
Yn ôl Ms Cleary mae’r dyddiau nesaf felly yn holl bwysig i ddisgyblion ifanc ac mae’n rhaid rhoi eu lles nhw fel blaenoriaeth wedi deunaw mis caled wrth i Covid-19 tarfu.
Ychwanegodd fod lles “wedi gorfod bod yn ffocws."
“Os rywbeth mae o wedi cryfhau a mae hyn rŵan yn gyfle i wneud hynny wyneb yn wyneb”.