Rhyfel Iran 'ddim yn dda' i economi Prydain meddai'r Canghellor

Rachel Reeves

Mae Canghellor y Trysorlys wedi dweud nad yw'r sefyllfa wleidyddol yn y Dwyrain Canol yn llesol i economi Prydain.

Dywedodd Rachel Reeves y gallai'r y Llywodraeth fod yn barod i ymyrryd er mwyn helpu gyda chostau ynni os yw’r gwrthdaro’n gwaethygu. 

Wrth siarad ym Mhwyllgor y Trysorlys ddydd Mercher, dywedodd y byddai hi’n “anaddas i ddyfalu” sut effaith gaiff rhyfel Iran ar chwyddiant y DU, neu ar y gyfradd llog. 

Mae’r Llywodraeth “yn edrych ar nifer o sefyllfaoedd posib", ychwanegodd.

Culfor Hormuz

Mae’r rhyfel wedi arwain at atal llongau rhag hwylio drwy Gulfor Hormuz,  sydd yn llwybr hanfodol ar gyfer allforio cyflenwadau olew a nwy.

Dywedodd  Canolfan Gweithrediadau Masnach Forwrol y DU fod tair llong fasnachol wedi cael eu taro gan “daflegrau anhysbys” fore Mercher mewn digwyddiadau unigol. 

Bu un ymosodiad ger arfordir Oman, gan achosi un llong i fynd ar dân yng Nghulfor Hormuz.   

Dywedodd Ms Reeves wrth yr ASau ddydd Mercher: “Yn bendant nid yw hi’n dda fod y fasnach wedi cael ei hymyrryd, yn enwedig pan fod gymaint o olew a nwy yn dod o’r ardal yna o’r byd.

“Ond y peth gorau rydym yn medru ei wneud fel Llywodraeth yw ceisio lleihau tensiwn y gwrthdaro hwn.” 

Cronfeydd olew

Mae gweinidogion gwledydd y G7 wedi cyfarfod yn y dyddiau diwethaf, ac yn ystyried rhyddhau eu cronfeydd o olew wrth gefn.   

Dywedodd Ms Reeves: “Rwyf wedi bod yn glir iawn bod y DU yn barod i chwarae ei rhan gan ddefnyddio ei chronfeydd, er mwyn rhoi pwysau ar brisiau olew ac er mwyn sicrhau fod cyflenwadau yn parhau i fod yn gryf.”

Ychwanegodd fod y DU yn gweithio’n agos gyda’u cynghreiriaid yn y Gwlff a'r G7.

Gofynnwyd i Ms Reeves os oes gan y Llywodraeth y gallu i ymyrryd yn y rhyfel fel yn ystod argyfwng Wcrain. 

Dywedodd wrth yr ASau: “Rydym o hyd yn sicrhau ein bod yn gwneud bod dim er mwyn gwarchod ein cwsmeriaid, ond hefyd rydym yn sicrhau diogelwch cenedlaethol ein heconomi.   

“Rydym mewn sefyllfa gryfach o’i gymharu gyda phan es i mewn fel Canghellor i ymateb... ac rydym mewn lle cryfach mewn sawl ffordd na phan ymosododd Rwsia yn anghyfreithlon ar Wcráin.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.