Downing Street: Llong yr HMS Prince of Wales ddim yn cael ei hanfon i'r Dwyrain Canol
Mae Downing Street wedi awgrymu na fydd llong yr HMS Prince of Wales yn mynd i'r Dwyrain Canol, wedi sïon bod bwriad i'w hanfon yno er mwyn gwarchod Prydeinwyr yn y rhanbarth.
Roedd adroddiadau bod cais i'w chael hi'n barod ar gyfer gwasanaethu yn y Dwyrain Canol.
Mae awyrennau ychwanegol a'r llong ryfel HMS Dragon eisoes yn cael eu hanfon yno er mwyn cynorthwyo lluoedd Prydain, wedi i rai canolfannau milwrol y Deyrnas Unedig gael eu taro â dronau yn ddiweddar.
Ond mae Rhif 10 wedi wfftio'r awgrym bod bwriad i anfon yr HMS Prince of Wales yno hefyd.
Dywedodd llefarydd ar ran y Prif Weinidog Syr Keir Starmer: “Mae'r HMS Prince of Wales wastad yn barod ac ar gael pe bai ei hangen. Ond does dim penderfyniad i'w hanfon.”
Mae Arlywydd America, Donald Trump wedi beirniadu'r Deyrnas Unedig gan gyhuddo Syr Keir Starmer o fod yn gyndyn i ymuno â'r gwrthdaro yn y Dwyrain Canol, sy'n cael ei arwain gan yr Unol Daleithiau ac Israel.
Dywedodd Mr Trump: “Dydyn ni ddim eu hangen nhw bellach, a dydyn ni ddim angen pobl sy'n ymuno â rhyfeloedd ar ôl i ni eisoes eu hennill!”
Llun: PA
