Arestio pump wedi gêm rownd gyn-derfynol Cwpan Cymru Y Fflint a Dinas Bangor 1876

Arestio pump wedi gêm rownd gyn-derfynol Cwpan Cymru Y Fflint a Dinas Bangor 1876

Fe gafodd pump o bobl eu harestio ar amheuaeth o droseddau yn erbyn y drefn gyhoeddus yn dilyn rownd gyn-derfynol Cwpan Cymru JD rhwng Y Fflint a Dinas Bangor 1876 ddydd Sadwrn, meddai'r heddlu. 

Cafodd fideos eu rhannu yn helaeth ar y cyfryngau cymdeithasol ar ôl y gêm oedd i weld yn dangos gwrthdaro rhwng heddlu a chefnogwyr yn Llandudno.

Dywedodd Clwb Dinas Bangor 1876 eu bod nhw "yn ymwybodol o ddigwyddiad a rannwyd ar y cyfryngau cymdeithasol yn ymwneud â chadeirydd y clwb" Nick Pritchard.

"Rydym yn deall bod y mater yn destun camau gweithredu gan Heddlu Gogledd Cymru sydd yn mynd rhagddynt ar hyn o bryd, felly, ar hyn o bryd, nid yw'r clwb yn gallu gwneud sylwadau pellach," medden nhw.

Nid yw'r heddlu wedi cadarnhau enwau yr rheini a gafodd eu harestio.

Y Fflint oedd yn fuddugol yn y gêm, gan guro Dinas Bangor 1876 5-1 yn Llandudno.

Dywedodd Heddlu'r Gogledd fod swyddogion wedi cael eu galw am 15:59 i ddigwyddiad o anhrefn sylweddol yn ymwneud â nifer fawr o bobl y tu allan i dafarn Nevill ar Stryd Vaughan yn Llandudno. 

Fe gafodd pump o bobl eu harestio ar amheuaeth o droseddau yn erbyn y drefn gyhoeddus, achosi niwed corfforol ac ymosod ar weithiwr brys. 

Ychwanegodd y llu fod hwn yn parhau yn ymchwiliad byw, gan gynnwys adolygu deunydd fideo a CCTV. 

Dywedodd yr heddlu eu bod yn ymwybodol o ddiddordeb sylweddol ar y cyfryngau cymdeithasol, gan gynnwys rhannu fideos yn eang gan bobl oedd yn bresennol.

Mae'r heddlu yn annog unrhyw un â wnaeth recordio'r anhrefn i anfon y fideo  atyn nhw er mwyn eu cynorthwyo yn eu hymchwiliadau. 

Mae'r llu yn annog unrhyw un â gwybodaeth i gysylltu gan ddefnyddio'r cyfeirnod 0035019.

'Niweidio profiad positif'

Dywedodd Cymdeithas Bêl-droed Cymru: "Fe gafodd rownd gyn-derfynol Cwpan Cymru JD rhwng Y Fflint a Dinas Bangor 1876 ei chwarae heb unrhyw ddigwyddiad. 

"Mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru yn ymwybodol o anhrefn honedig yng nghanol tref Llandudno wedi i'r gêm ddod i ben, ac er fod hyn yn disgyn y tu allan i awdurdodaeth y gymdeithas, fe fyddwn ni'n cefnogi ymchwiliad Heddlu Gogledd Cymru os bydd angen.

"Roedd rownd gyn-derfynol Cwpan Cymru ei hun yn ddigwyddiad cadarnhaol ar gyfer pêl-droed yng Nghymru. Nid oes lle i drais mewn pêl-droed ac mae'n niweidio'r profiad cadarnhaol y mae'r mwyafrif yn ei fwynhau."

Yn eu datganiad nhw fe ychwanegodd Clwb Dinas Bangor 1876 eu bod nhw "wedi sefydlu polisïau a gweithdrefnau i fynd i'r afael ag unrhyw faterion a godir a bydd yn dilyn y prosesau hynny os bydd angen".

"Darperir diweddariadau pellach os a phan fo'n briodol, a hyd at hynny ni fydd y clwb yn gwneud unrhyw sylwadau pellach," medden nhw.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.