Y prifardd Eigra Lewis Roberts wedi marw yn 86 oed
Mae teyrngedau wedi eu rhoi i'r prifardd a'r llenor o Flaenau Ffestiniog, Eigra Lewis Roberts, sydd wedi marw yn 86 oed.
Ysgrifennodd sawl cyfrol yn cynnwys nofelau, straeon byrion, cofiannau, dramâu a straeon i blant.
Cafodd ei chydnabod fel un o lenorion pwysicaf yr iaith Gymraeg yn ystod y 60au a’r 70au.
Ar ddiwrnod ei phenblwydd yn 2006 enillodd y Goron am y tro cyntaf yn Eisteddfod Genedlaethol Abertawe.
Hefyd, fe enillodd y Fedal Ryddiaith yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn 1965 a 1968, a Thlws y Ddrama yn 1974.
Wedi ei geni ym Mlaenau Ffestiniog fe gafodd Eigra Lewis Roberts ei haddysg yn Ysgol Sir Ffestiniog a Choleg y Brifysgol ym Mangor ac ar ôl graddio, bu'n dysgu am gyfnod yng Nghaergybi a Llanrwst.
Hefyd yn ystod ei gyrfa fe enillodd gwobr BAFTA Cymru am y sgriptiwr gorau yn 1995.
Cyhoeddwyd ei nofel gyntaf, Brynhyfryd, yn 1959.
Mewn teyrnged dywedodd yr Eisteddfod Genedlaethol bod Eigra Lewis Roberts wedi gwneud "cyfraniad arbennig" i lenyddiaeth Cymru.
"Roedd Eigra Lewis Roberts yn enillydd toreithiog yn yr Eisteddfod - y Fedal Ryddiaith ddwywaith, Tlws y Ddrama, ac yna’r Goron yn Eisteddfod Abertawe ugain mlynedd yn ôl.
"Yn awdur rhai o nofelau enwocaf ein cenedl, byddwn yn ei chofio am ei chyfraniad arbennig i lenyddiaeth Cymru.
"Rydyn ni’n anfon ein cydymdeimladau dwysaf at ei theulu a’i holl ffrindiau heddiw ac yn diolch am ei chyfraniad, ei gwaith a’i chefnogaeth."
'Gallu anhygoel'
Ymhlith y rhai sydd wedi rhoi teyrngedau mae'r actor John Ogwen.
Roedd Mr Ogwen yn chwarae rhan Dic Powell yn y gyfres ddrama Min Afon, a gafodd ei hysgrifennu gan Eigra.
Wrth siarad ar raglen Dros Frecwast, dywedodd: “Mi oedd hi ‘di creu cymeriadau gwirioneddol gofiadwy a dyna pam mewn gwirionedd, roedd y gyfres mor ofnadwy o boblogaidd. Mae’n anodd meddwl erbyn heddiw fod ‘na 200,000 yn ei gwylio hi.
“Be dwi’n gofio fwyaf byd ynghylch y gyfres gyfan oedd pa mor hawdd oedd cofio’r llinellau oherwydd ysgrifennu gwych Eigra.
"Dwi 'di darllen ei llyfrau hi i gyd, mae ‘na res ohonyn nhw ar y silff yn fan hyn ond be oedd genna’ hi oedd y gallu anhygoel i greu cymeriadau.
“Oedd hi’n medru symud ei hun oddi wrth y nofel ac achos bod hi’n medru creu deialog mor fyw, roedd y ddeialog yn y nofelau mwy neu lai yn barod, ac mi oeddwn i’n tynnu ei choes hi am hynny.
"Mi oedd genna ni ryw fath o berthynas lle ‘mab’ oedd hi’n galw fi, ag mi oeddwn i’n galw hi’n ‘mam’
“Roedd hi’n hoff iawn, iawn o hiwmor ac roedd hi’n barod iawn i chwerthin. Roedd 'na lot fawr o gynilder yn ei ‘sgwennu, dyna le mae ei chryfder mawr, mawr hi, ei chynilder hi.
Fe ychwanegodd: “Mae’n rhai wythnosau erbyn hyn ers i fi ei gweld hi, ag odd yn hoff iawn o thrillers, a thriller diweddara Michael Connoly, es i’n anrheg iddi hi. Dwi’n gobeithio bod hi di medru darllen hi i gyd."
'Colled fawr'
Ychwanegodd y Cynghorydd sir lleol, Elfed Wyn ap Elwyn: “Mae hi’n golled fawr i ddiwylliant Cymraeg.
“Mi wnaeth hi ddechrau sgwennu’n ifanc ac wedyn di cael ei gwaith wedi’u troi mewn i ffilmiau, fel Y Graith ac ati.
“Mae’r ffaith bod hi ‘di cael ei hanrhydeddu gan yr Eisteddfod, i ddynes yn y 60au a 70au, mae’n rhywbeth mawr i ferched bod hi ‘di gwneud pethau mor nodweddiadol.
“Dwi’n cofio ei llun ar wal fy nosbarth Cymraeg i, Eigra ac Iwan Llwyd ac ati, ac mae gweld y bobol ‘ma yn mynd, mae’n deimlad fod y bobl sydd wedi codi’r Gymraeg i le mae o yn ein gadael yn ara’ bach. Mae’n gwneud i rywun fod eisiau crio.”