Newyddiadurwr o Gymru yn dweud i’w dŷ gael ei chwilio fel rhan o ymchwiliad ysbïo Tsieina
Mae newyddiadurwr o Gymru yn dweud i’w dŷ gael ei chwilio fel rhan o ymchwiliad ysbïo Tsieina.
Dywedodd Martin Shipton, sy'n 72 oed, bod ei dŷ yng Nghaerdydd wedi cael ei chwilio am 06:20 ddydd Mercher.
Fe wnaeth yr heddlu gymryd dyfeisiau electronig a dogfennau yn ôl y newyddiadurwr, sy’n un o olygyddion Nation Cymru, ac a oedd yn un o olygyddion y Western Mail.
"Rwy'n gwneud popeth o fewn fy ngallu i helpu'r heddlu gyda'u hymholiadau," meddai.
Daw hyn wedi i ŵr i AS Llafur sy'n gyn-ymgynghorydd i wleidyddion y blaid yng Nghymru gael ei arestio ynghyd â dau o bobl eraill mewn cysylltiad i ymchwiliad sy'n ymwneud ag ysbïo ar ran Tsieina.
Mae David Taylor yn ŵr i'r AS Llafur dros Ddwyrain Kilbride a Strathaven, Joani Reid. Enwau'r ddau arall yw Steve Jones, 68 oed, a Matthew Aplin, sy'n 43 oed.
Mae'r tri a gafodd eu harestio bellach wedi eu rhyddhau ar fechnïaeth yr heddlu fore Iau.
Cafodd dau ohonynt eu harestio yng Nghymru.
Dywedodd Heddlu'r Met bod dyn 68 oed wedi'i arestio ym Mhowys, tra bod dyn 43 oed wedi'i arestio ym Mhontyclun.
Cafodd dyn 39 oed ei arestio mewn cyfeiriad yn Llundain, medden nhw.
Roedd y tri dyn wedi eu harestio ddydd Mercher ar amheuaeth o gynorthwyo gwasanaeth cuddwybodaeth o dramor, yn groes i adran 3 o Ddeddf Diogelwch Cenedlaethol, 2023.
Dywedodd Heddlu'r Met mai Tsieina yw'r wlad y mae'r ymchwiliad yn ymwneud â hi.
