Cyngor Sir Gâr yn pleidleisio o blaid cau Ysgol Llansteffan
04/03/2026Cyngor Sir Gâr yn pleidleisio o blaid cau Ysgol Llansteffan
Mae aelodau Cyngor Sir Caerfyrddin wedi pleidleisio o blaid cau Ysgol Llansteffan, gyda drysau’r ysgol yn cau yn swyddogol ar ddiwedd mis Awst.
Bydd y disgyblion yn symud i ddalgylch Ysgol Llangain, rhyw bum milltir i ffwrdd.
Cafodd y cynnig i gau’r ysgol ei gyflwyno’n ffurfiol gan yr aelod cabinet ar gyfer addysg, y Cynghorydd Glynog Davies.
Ychwanegodd bod yr awdurdod wedi wynebu beirniadaeth gan Estyn am beidio â bwrw ymlaen yn ddigon cyflym gyda’r broses o foderneiddio ysgolion.
Dywedodd bod rhaid “gwneud penderfyniadau anodd” ar adegau a bod yna 1,000 o blant yn llai yn ysgolion Sir Gâr o gymharu â’r cyfnod cyn y pandemig Covid-19.
Cyfaddefodd y Cynghorydd Davies bod nifer y disgyblion yn Ysgol Llansteffan wedi dwblu o wyth i 16 mewn blwyddyn ond nad oedd yr ysgol yn “gynaliadwy” yn ei ffurf bresennol.
Bu disgyblion a rhieni, ynghyd ag aelodau Cymdeithas yr Iaith, yn lobïo cynghorwyr cyn y cyfarfod, gan alw am oedi’r broses yn sgil cynnydd yn nifer y disgyblion.
Roedd Cymdeithas Rieni ac Athrawon Llansteffan wedi sgwennu at y cyngor yn dadlau bod 17 o ddisgyblion yn yr ysgol erbyn hyn.
Ymatebodd 201 o bobl i’r ymgynghoriad, gyda 198 yn erbyn y bwriad i gau Ysgol Llansteffan.
Yn ôl Cyngor Sir Caerfyrddin, roedd 46 o blant o ddalgylch Llansteffan yn cael eu haddysgu mewn ysgolion eraill yn yr ardal, ac nid yn Ysgol Llansteffan, ac roedd nifer isel y disgyblion, y nifer fawr o lefydd gwag, a’r sefyllfa ariannol yn golygu mai’r argymhelliad oedd cau’r ysgol.
Er i’r bleidlais i gau’r ysgol gael cefnogaeth mwyafrif y cynghorwyr, penderfynodd dau aelod o grŵp Plaid Cymru, sy’n cyd-reoli’r cyngor, nad oedden nhw’n gefnogol i’r cynnig.
Pleidleisiodd y Cynghorydd Jean Lewis yn erbyn y cynnig ac fe benderfynodd y Cynghorydd Meinir James atal ei phleidlais.
'Siomedig'
Roedd Mared Lenny, sy’n rhiant yn Ysgol Llansteffan, yn eithriadol o flin am y penderfyniad.
"Mae'n ddiwrnod trist, yn amlwg," meddai.
"Mae'r ffordd mae'r cyngor wedi ymddwyn drwy'r broses yma wedi bod yn hollol anghredadwy. Dydyn nhw ddim wedi gwrando arnon ni fel rhieni.
"Maen nhw bron wedi trin ni fel gelynion - ni fel rhieni, a'r gymuned yn Llansteffan. Maen nhw wedi rhoi arbed arian o flaen ein plant ni, a biwrocratiaeth o flaen ein cymuned ni.
"Mae'n siomedig. Dydy swyddogion y cyngor ddim wedi cydweithio gyda ni. Rydyn ni wedi gofyn i drafod ond i beth? Dydyn nhw ddim wedi gwrando.
"Rydyn ni wedi newid y duedd o ran nifer y disgyblion. Y broblem yw bod yr hyn maen nhw'n ei gynnig - sef rhoi ein plant ni mewn ysgol yn y pentref nesaf - bron ar gapasiti.
"Maen nhw'n dweud y byddan nhw'n iawn. Ond ble fyddan nhw mewn 10 mlynedd?
"Mae'n anaddas. Mae adeilad Llansteffan, a'r lleoliad, yn dda. Os ydych chi'n gofyn i fi, maen nhw'n cau'r ysgol anghywir."
'Gofid'
Gwrthododd y Cynghorydd Glynog Davies yr honiadau.
"Mae'r drafodaeth wedi digwydd dros flwyddyn ar sawl lefel," meddai.
"Dw i'n teimlo ein bod ni wedi trafod yn ddigonol. Dw i'n ffyddiog ein bod ni wedi dilyn y broses fel y dylen ni.
"Rydyn ni wedi gwneud yr hyn sy'n ofynnol i ni. Mae'r swyddogion wedi dod i'r casgliad nad yw ysgol o 16 o ddisgyblion yn gynaliadwy. Mae adeilad Llangain yn iawn. Mae'r swyddogion wedi asesu, ac rydw i wedi holi a holi.
"Mae'r swyddogion wedi bod nôl yn Llangain yn ddiweddar iawn. Mae digon o le yn Llangain ar gyfer y disgyblion. Mae'n addas ar gyfer yr ysgol."
Dywedodd llywodraethwr ar ran ffederasiwn ysgolion Llansteffan, Llangain a Bancyfelin, Huw Iorwerth mai dyma’r ofn roedden nhw wedi bod yn poeni amdano ers sbel, a’u bod yn gofidio’n fawr am ddyfodol addysg y plant yn y pentref.
"Y gofid yw nad yw teuluoedd a phlant bach yn symud i'r ardal. Bydd yna newid mawr yn y gymdeithas," meddai.
"Y gofid mawr yw bod y cynnig i symud y plant i Ysgol Llangain, sy'n ysgol ardderchog, ond mae'r adnoddau yno'n llai o gymharu â Llansteffan, a dydy hynny ddim yn beth da."
Dywedodd Ffred Ffransis o Gymdeithas yr Iaith ei bod hi’n “anhygoel” nad oedd “un llais o Llansteffan” i’w glywed fel rhan o’r drafodaeth yn y siambr heddiw.
"Dim ond cynghorwyr yn ailadrodd beth mae’r swyddogion yn ei ddweud," meddai.
Mae’n gobeithio y bydd y llywodraeth nesaf ym Mae Caerdydd yn mabwysiadu agwedd mwy cadarnhaol tuag at ysgolion bach.
"Rydyn ni wedi derbyn sicrwydd gan Blaid Cymru, os ydyn nhw'n ffurfio llywodraeth ar ôl mis Mai, y byddan nhw’n adolygu sut mae’r rhagdybiaeth yn erbyn cau ysgolion fel Llansteffan yn gweithio. Yn amlwg dyw e ddim yn gweithio ar y funud."
Ymateb y pleidiau
Gofynnodd Newyddion S4C am farn y pleidiau.
Dywedodd y Ceidwadwyr mai "ysgolion sydd wrth galon cymunedau, a mai’r cam olaf posibl oedd cau ysgolion. Mae teuluoedd yn disgwyl tryloywder gan awdurdodau lleol a thystiolaeth bod pob opsiwn wedi cael ei ystyried yn llawn. Mae'r Ceidwadwyr yn credu y dylid blaenoriaethu buddiannau disgyblion a chymunedau."
Yn ôl plaid Reform, "mae effaith cau ysgolion yn lledaenu drwy gymunedau. Rydym am weld ysgolion gwledig yn ffynnu."
Dywedodd Plaid Cymru ei bod "yn cefnogi'r rhagdybiaeth yn erbyn cau ysgolion gwledig" ac wedi ymrwymo i gynnal adolygiad o'r Cod Trefniadaeth ysgolion, ac adolygu'r fformiwla cyllido ar gyfer awdurdodau gwledig.
Mae cais wedi’i wneud i’r Democratiaid Rhyddfrydol, Llafur a’r Gwyrddion ymateb hefyd.