Plaid sydd am ddiddymu’r Senedd ddim am roi ymgeiswyr yn etholiad y Senedd

Llun: Senedd Cymru
Senedd Cymru

Mae plaid wleidyddol sydd yn dymuno diddymu'r Senedd wedi penderfynu peidio â rhoi unrhyw ymgeiswyr ymlaen ar gyfer etholiad y Senedd fis Mai.

Mewn datganiad a gafodd ei rhyddhau nos Fawrth, fe ddywedodd arweinydd Abolish the Welsh Assembly Party, Richard Suchorzewski bod y “penderfyniad strategol wedi’i seilio ar realiti etholiadol”.

“Dan y system sydd wedi’i ddiwygio, mae’n hynod annhebygol y byddai pleidiau llai yn gallu sicrhau cynrychiolaeth heb rannu pleidlais y rhai sydd yn cwestiynu cyfeiriad datganoli.

“Ar ôl rhoi ystyriaeth fanwl, rydym yn credu mai’r weithred fwyaf cyfrifol yw i beidio â rhannu’r bleidlais,” meddai’r datganiad, a gafodd ei rhyddhau ar y cyfryngau cymdeithasol.

Dywedodd arweinydd y blaid, Richard Suchorzewski: “Y trethdalwr Cymreig a llywodraethiant effeithiol sydd wastad wedi bod ein blaenoriaeth.

“Fe fyddai sefyll yn yr etholiad hwn wedi bod yn weithred symbolaidd ac yn peryglu rhannu’r bleidlais gwrth-ddatganoli, ac o bosib yn cryfhau’r rhai sydd wedi’u hymrwymo i ehangu a grymuso’r Senedd ymhellach.”

Mae’r blaid yn dweud ei fod yn parhau i wrthwynebu’r cynnydd yn nifer yr Aelodau’r Senedd, o 60 i 96, ac yn mynnu y bydd ei “ffocws yn parhau ar broblemau cost, perfformiad ac atebolrwydd o fewn llywodraethiant Cymru.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.