Gêm ddi-sgôr i Gymru yn erbyn y Ffindir 

NS4C

Gêm ddi-sgor oedd hi yn Helsinki gyda Chymru a’r Ffindir yn methu â sicrhau gôl nos Fercher. 

Daeth sawl cyfle i Gymru gan gynnwys cic o’r smotyn yn yr hanner cyntaf, ond methodd Harry Wilson gyda’r bêl yn mynd yn rhy llydan. 

Methodd Wilson gynnig arall am y gôl yn yr ail hanner, gan fethu dwy gic rydd. 

Daeth yr eilydd Ben Davies ymlaen yn lle James Lawrence ar gychwyn yr ail hanner, a daeth Gareth Bale ymlaen ym munudau olaf y gêm yn lle Tyler Roberts. 

Roedd amddiffyn Cymru yn dda drwy gydol y gêm a doedd y Ffindir heb geisio am y targed nes y munudau olaf.

Fe geisiodd Pyry Soiri am y gôl gyda tri munud yn weddill, ond daeth rhyddhad i Gymru pan gadarnhaodd y llimanwr fod camsefyll. 

Dyma oedd gêm gyntaf Cymru ers colli yn erbyn Denmarc ym mhencampwriaeth Euro 2020. 

Bydd Cymru yn wynebu Belarws ac Estonia yn ddiweddarach yn y mis yn gemau rhagbrofol Cwpan y Byd 2022.

Llun: Huw Evans