Cyfryngau cymdeithasol ‘wedi difetha ’mywyd i’ medd merch yn ei harddegau
Cyfryngau cymdeithasol ‘wedi difetha ’mywyd i’ medd merch yn ei harddegau
Mae merch 17 oed yn dweud bod y cyfryngau cymdeithasol “wedi difetha ’mywyd i”.
Cafodd lluniau personol o Jorja Edwards o Flaenau Ffestiniog eu rhannu ar-lein heb ei chaniatâd yn 2022, pan oedd hi’n 13 oed.
Wrth siarad â rhaglen Y Byd ar Bedwar, mae’n dweud iddi fynd i “le tywyll iawn” ac wedi’i gadael “heb lawer o confidence o gwbwl.”
Fe ddechreuodd Jorja siarad gyda bachgen nad oedd hi’n ei adnabod arlein, ar ôl ychwanegu pobl ddieithr ar Snapchat - rhywbeth y gwnaeth “er mwyn cael mwy o ffrindia, a mwy o attention mewn ffordd.”
Ar ôl tri mis o siarad yn ddyddiol gyda’r bachgen, fe ddatblygodd y berthynas rhwng y ddau.
“Ddechreuon ni fynd allan gyda’n gilydd fel cariadon. A wedyn, un noson fe ddechreuon ni yrru llunia inappropriate, a ’aru fo safio’r llunia i camera roll fo.”
Ond yn dilyn ffrae lle ddaeth y berthynas i ben, fe rannodd y bachgen y lluniau heb ei chaniatâd arlein, a buan daeth plant o’i hysgol i wybod amdanynt.
“Esh i i’r ysgol un bora a oedd pawb yn gwybod am dan y llunia, ac yn sexualiso fi,” meddai Jorja, sydd bellach yn 17 oed.
“O’n i’n teimlo’n rili isel yn fy hun a ddim isho bod yn yr ysgol. O’n i jyst yn teimlo’n disgusted yn fy hun.”
“Ma o jyst yn dangos faint ma’ o ’di difetha bywyd fi fatha teenager.”
Fe gadarnhaodd yr heddlu fod y bachgen dan 16 oed ar y pryd, ac oherwydd hynny, ni fu ymchwiliad troseddol. Fe gafodd y ddwy ochr gymorth.
Ar hyn o bryd, ni ddylai plant dan 13 oed fod ar y cyfryngau cymdeithasol yn y Deyrnas Unedig. Yn ôl Snapchat, TikTok a Meta, mae mesurau amrywiol mewn lle i ddiogelu plant ynghyd â ffyrdd o wirio oedran eu defnyddwyr.
Gwahardd plant dan 16 oed ar y cyfryngau cymdeithasol
Ym mis Rhagfyr, cafodd y cyfryngau cymdeithasol eu gwahardd i blant dan 16 oed yn Awstralia. Dyma’r gwaharddiad cyntaf o’i fath yn y byd.
Mae pwysau cynyddol o bob plaid ar Lywodraeth y Deyrnas Unedig i gyflwyno gwaharddiad tebyg fan hyn.
“Ma social media yn hannar y rheswm pam ma’ genod a hogia yn teimlo mor isel yn eu hunain,” meddai Jorja. “Ma’ nhw’n taflu bywyda nhw ffwrdd achos ma’ social media yn addictive.”
Yn ôl ei mam, Emma Horne-Edwards sydd wedi arwyddo deiseb yn cefnogi gwaharddiad llym, “ma’ plant yn controlled.”
“Mae o wedi difetha bywyd teulu ni,” meddai.
Mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi lansio ymgynghoriad byr i ddechrau’r mis hwn i drafod yr opsiynau gorau i ddiogelu plant ar-lein.
Mewn datganiad, fe ddywedon nhw eu bod wedi “cyflwyno rhai o’r mesurau diogelu arlein mwyaf llym yn y byd, sy’n gorfodi platfformau i atal cynnwys niweidiol, ond ry’n ni’n deall nad yw’n hynny’n ddigon ar ei ben ei hun.
“Pan mae’n dod i ddiogelwch plant, does dim byd yn amhosib. Nid yw’n gwestiwn o ‘os’ bod rhaid gwneud mwy, ond ‘sut’.”
Wrth ymateb i brofiad Jorja, maen nhw’n dweud mai straeon fel hyn “yw’r rheswm dros fynd yn bellach ac yn gyflymach i ddiogelu plant arlein."
Ym mis Chwefror, fe wnaethon nhw “gyhoeddi mesurau sy’n gorfodi platfformau i ddileu lluniau personol sy’n cael eu rhannu heb ganiatâd y dioddefwr o fewn 48 o gael eu hadrodd.”
Bydd rhaglen ‘Y Byd ar Bedwar: Y genhedlaeth gaeth?’, yn cael ei darlledu nos Lun 2 Mawrth am 20.00 ar S4C, S4C Clic a BBC iPlayer.