Carcharu dau am dwyll gwerth bron i £1 miliwn yn erbyn cwmni bwyd o'r de
Mae dau ddyn wedi eu carcharu am dwyllo cwmni cynhyrchu bwyd allan o bron i £1 miliwn o bunnau.
Defnyddiodd Matthew Hill, 38 oed, a Richard Walker, 64 oed, gynllun i greu archebion ffug ac anfonebau twyllodrus a arweiniodd at ddwyn £935,296.20 gan y cwmni rhwng Chwefror 2018 ac Ionawr 2024.
Cafodd y ddau bedair blynedd o garchar am eu troseddau yn erbyn cwmni Zorba Delicacies yng Nglyn Ebwy.
Plediodd Hill o Gaerffili yn euog i dwyll a bod ag eiddo troseddol yn ei feddiant, a chyfaddefodd Walker o Sir Nottingham i dwyll.
Dywedodd Ditectif Gwnstabl Nick Edwards o Heddlu Gwent: “Camddefnyddiodd Hill a Walker eu safleoedd er mwyn eu budd personol gan achosi niwed ariannol sylweddol i gyflogwr lleol pwysig.
"Rhoddodd eu gweithredoedd nhw swyddi a bywoliaeth eu cydweithwyr mewn perygl dros gyfnod estynedig.
“Roedd hwn yn dwyll cymhleth a gynhaliwyd dros nifer o flynyddoedd, ac mae eu dedfryd yn adlewyrchu difrifoldeb eu troseddu. Gwnaethom weithio’n agos gyda’r cwmni trwy’r ymchwiliad cyfan i gasglu’r dystiolaeth oedd ei hangen i ddwyn y ddau ddyn gerbron llys."
Ychwanegodd: “Mae pobl yn dioddef go iawn o ganlyniad i drosedd economaidd. Mae’n difrodi busnesau, effeithio ar staff, ac yn effeithio ar y gymuned ehangach.
"Rydyn ni wedi ymroi i ddal pobl sy’n ceisio gwneud elw trwy dwyll, ymchwilio iddyn nhw, a’u dwyn nhw o flaen eu gwell.”
Llun: Heddlu Gwent