Ian Huntley wedi dioddef anafiadau difrifol mewn ymosodiad yn y carchar
Mae llofrudd Soham, Ian Huntley, wedi derbyn anafiadau difrifol ar ôl iddo ddioddef ymosodiad gyda bar metel mewn gweithdy yn y carchar.
Dywedodd Heddlu Durham fod carcharor wedi dioddef yr ymosodiad fore dydd Iau yng Ngharchar Frankland ger Durham, cyn cael ei ruthro i'r ysbyty.
Dywedodd llefarydd ar ran yr heddlu: “Cafodd yr heddlu eu hysbysu am ymosodiad a ddigwyddodd yng Ngharchar Frankland yn Durham y bore yma.
“Dioddefodd carcharor gwrywaidd anafiadau difrifol yn ystod y digwyddiad ac fe gafodd ei gludo i’r ysbyty.
“Mae ymchwiliad yr heddlu bellach ar y gweill i amgylchiadau’r digwyddiad ac mae ditectifs yn cysylltu â staff yn y carchar.”
Y gred yw bod yr ymosodiad wedi digwydd mewn gweithdy yn y carchar a bod Huntley wedi cael ei adael mewn pwll o waed.
Roedd Huntley yn gyfrifol am ladd y ddwy ferch 10 oed Holly Wells a Jessica Chapman ar ôl iddyn nhw adael barbeciw teuluol i brynu melysion yn Soham, Sir Caergrawnt, ar 4 Awst 2002, cyn taflu eu cyrff i mewn i ffos.
Cafodd ddedfryd o garchar am oes, gyda'r argymhelliad y dylai dreulio o leiaf 40 mlynedd dan glo am y llofruddiaethau.
Dywedodd llefarydd ar ran y Gwasanaeth Carchardai: “Mae carcharor yn derbyn triniaeth ar ôl digwyddiad yng Ngharchar Frankland fore Iau.
“Byddai'n amhriodol gwneud sylwadau pellach tra bod yr heddlu'n ymchwilio.”
Llun: PA