AS Ynys Môn ddim yn San Steffan am gyfnod o achos laryngitis cronig

Llinos Medi AS

Mae'r Aelod Seneddol ar gyfer Ynys Môn wedi dweud na fydd hi'n gallu bod yn San Steffan am gyfnod am fod ganddi laryngitis cronig.

Mewn neges ar ei chyfrif facebook mae Llinos Medi yn dweud ei bod hi yn derbyn triniaeth feddygol ac ei bod hi wedi "cael cyfarwyddiadau llym gan fy meddygon i orffwys".

Laryngitis yw pan mae'r blwch llais neu linynnau’r llais yn y gwddw yn chwyddo neu yn cael eu ffyrnigo.

Ymhlith y symptomau mae colli llais weithiau, peswch sydd ddim yn mynd i ffwrdd a gwddw tost. 

Mae'r AS Plaid Cymru wedi dweud bod gorfod gorffwys yn "rhwystredig iawn i mi gan mai gwasanaethu fy etholwyr yw fy mlaenoriaeth.

Yn anffodus, mae'n golygu na fyddaf yn gallu mynychu San Steffan am gyfnod. Mae trefniadau ar waith fel y bydd fy ngyd-ASau Plaid Cymru yn gallu pleidleisio ar fy rhan."

Ychwanegodd y bydd ei swyddfa yn aros ar agor ac y bydd ei thîm yn parhau i weithio. Dywedodd hefyd y dylai ei hetholwyr barhau i gysylltu ar e-bost fel arfer gydag unrhyw bryderon neu waith achos. 

 

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.