Caernarfon: Cynllun 'arloesol' i droi hen swyddfeydd yn llety i'r digartref

Newyddion S4C

Caernarfon: Cynllun 'arloesol' i droi hen swyddfeydd yn llety i'r digartref

Fe allai cynllun yng Nghaernarfon i droi hen swyddfeydd Llywodraeth Cymru yn unedau i'r digartref fod yn “arloesol”, yn ôl Cyngor Gwynedd.

Fe gafodd Swyddfeydd y Goron, sydd wedi bod yn wag ers 2018, eu prynu gan yr awdurdod yn 2024. 

Y bwriad ydi sefydlu 37 uned breswyl fyddai’n cynnig "cartrefi safonol" wrth i bobl aros am lety parhaol. 

Mae disgwyl i’r gwaith gostio rhwng £12m- £14m i’w hadnewyddu. 

Rhwng 2024 a 2025 fe wnaeth 956 o bobl gofrestru’n ddigartref gyda Chyngor Gwynedd gyda 205 o aelwydydd yn byw mewn llety "argyfwng anaddas" fel gwestai neu wely a brecwast. 

Mae 543 o ymgeiswyr hefyd ar restr am dai cymdeithasol yn ardal Caernarfon eisoes. 

'Arloesol'

Yn ôl y Cynghorydd Paul Rowlinson sy’n ddeilydd portffolio tai ar Gyngor Gwynedd, mae'r cynllun yn gwneud defnydd o hen adeilad tra hefyd yn rhan o’r ateb i broblemau digartrefedd y sir.

“Mae o yn arloesol," meddai wrth raglen Newyddion S4C.

“Mae’r swyddfa wedi bod yn wag ers bron i ddegawd rwan a dio ddim yn ddel iawn a mae na goncrit ym mhob man.

“Mae ‘na storiau o agweddau gwrthgymdeithasol yn digwydd fel sydd yn aml yn digwydd mewn adeiladau gwag felly mi fydd yn adfywio tre' Caernarfon."

Y bwriad ydi codi 25 o fflatiau un ystafell wely, 10 fflat dwy ystafell wely a dau o fflatiau tair ystafell wely. 

Image
Cynlluniau ar gyfer y llety newydd
Cynlluniau ar gyfer y llety newydd

Tra bod rhai mewn cartrefi cyfagos yn poeni am effaith y datblygiad, mynnu mae’r cyngor na fydd unrhyw un gydag anghenion dwys yn cael eu cartrefu yno. 

Mi fyddai cyfleusterau chwarae i blant hefyd yn yr ardd. 

Gyda bron i 11,000 o bobl drwy Gymru yn byw mewn llety dros dro ac wedi cofrestru’n ddi-gartref mae Shelter Cymru yn dweud bod lle i gynghorau fel hyn feddwl yn greadigol. 

“Mae’n rhaid i gynghorau fod yn ddyfeisgar," meddai Heddyr Gregory o’r elusen. 

“Mae’n rhaid edrych ar y stoc tai sydd ganddyn nhw ac ar y stoc o adeiladau sydd ganddyn nhw a meddwl  be 'di’r defnydd gorau posib allwn ni wneud i rhain er mwyn lleddfu rhywfaint ar yr argyfwng tai a darparu llefydd i bobl fyw."

Mae gan drigolion yng Nghaernarfon tan 11 Mawrth i fynegi barn ar y cynllun hwn yn ardal Penrallt. 

Os yn cael ei gymeradwyo y disgwyl yw y gallai gymryd hyd at 18 mis i gwblhau’r gwaith. 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.