Image

Mae lori wedi taro pont reilffordd ym Machynlleth, gan achosi oedi i deithwyr.
Roedd yr A487 ym Machynlleth wedi ei chau i'r ddau gyfeiriad am rai oriau ddydd Mercher yn dilyn y digwyddiad.
Mae lluniau o’r digwyddiad yn dangos cefn lori godi wedi taro pont rheilffordd, gan achosi difrod i'r seilwaith.
Mae Heddlu Dyfed Powys yn dweud bod y ffordd bellach wedi ail agor, gyda Thrafnidiaeth Cymru yn dweud bod peirianwyr yn asesu'r difrod sydd wedi ei wneud i'r bont.
Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.