Digwyddiad newydd yn ceisio annog talent i ddychwelyd i Gymru o Loegr
Digwyddiad newydd yn ceisio annog talent i ddychwelyd i Gymru o Loegr
Ym mhrysurdeb Llundain mae criw o Gymry yn dod ynghyd.
Noson Scratch Cymru lle mae pobl yn y maes creadigol yn dod at ei gilydd i gefnogi talent a dyfodol y celfyddydau.
"Pan ti'n byw yn Llundain mae'n gallu teimlo bach yn unig fel Cymro.
"Yn enwedig fel artist, mae'n anodd ffeindio cartref.
"Bwriad creu Scratch Cymru oedd creu rhyw fath o gymuned.
"Mae'n bwysig cadw'r linc rhwng Llundain a Chymru.
"Ni moyn y talent fod fan hyn ond hefyd ni moyn e fynd nol.
"Ni'n moyn dod a talent o Gymru i Lundain."
Mae'r daith actio'n aml yn arwain at Lundain, dinas y West End.
"Bore da, Mrs Griffiths."
Mae 'na alw eto am gyfleoedd i ddod yn ôl i Gymru i ddilyn gyrfa.
"Mae pob cyfle fi 'di cael wedi bod yn Lloegr.
"Ynglŷn â sgwennu fi. Fi'n siwr mae 'na sawl cyfle yn mynd 'mlaen yng Nghymru ond ambell waith sa i'n ymwybodol ohonyn nhw."
Mae'r gefnogaeth i'r celfyddydau hefyd yn cael ei adleisio nôl yng Nghymru.
"Mae'n her. Mae spinio'r platiau i gyd yn yr hinsawdd ariannol yng Nghymru yn heriol iawn.
"Dw i'n gobeithio bydd mwy o gefnogaeth ariannol gan y llywodraeth dros y blynyddoedd nesaf i hybu gyrfaoedd a sicrhau bod gynnon ni ddiwylliant gwydn.
"Mae'r costau 'di cynyddu a'r raddfa 'dan ni'n gael gan y Cyngor y Celfyddydau wedi bod ar standstill ers bron 2009.
"Mae'n rhoi pwysau aruthrol ar y cwmni a chwmniau eraill hefyd.
"Mae gynnon ni brosesau rheoli cadarn iawn a ni wrthi'n parhau y gorau y gallwn ni mewn hinsawdd sydd yn heriol i'r celfyddydau."
Yn ôl Llywodraeth Cymru mae Cymru Greadigol yn cefnogi cyfleoedd i dalent Cymru trwy gynnal 38,000 swydd a 600 prentisiaeth a lleoliadau hyfforddi hyd yma.
Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor y Celfyddydau eu bod yn ailedrych ar eu system grantiau i sicrhau ei fod yn addas i bwrpas ac yn gwasanaethu'r sector gan annog creadigrwydd yn y ffordd orau bosib.
Er bod Llundain yn llwyfan i rai o dalentau Cymru mae'r awydd i ddychwelyd adre i ddilyn gyrfa yn parhau.
