Goleuo stadiwm Everton i gefnogi bachgen o'r gogledd sydd â chyflwr iechyd prin

Rupert

Fe fydd stadiwm Clwb Pêl-droed Everton yn cael ei goleuo gyda lliwiau'r enfys nos Lun, i ddangos cefnogaeth i fachgen bach o'r gogledd sy'n byw gyda chyflwr iechyd prin.

Cafodd Rupert Smith o Frychdyn yn Sir y Ffflint ei eni gyda chyflwr Hemiplegia Bob yn Ail yn ystod Plentyndod (AHC) - sydd yn arwain at ffitiau a diffyg anadlu.

Mae'n derbyn gofal yn Ysbyty Maelor yn Wrecsam ac yn Ysbyty Alder Hey yn Lerpwl.

Fe fydd Everton yn herio Manchester United yn stadiwm Hill Dickinson nos Lun, ac mae teulu a chefnogwyr Rupert wedi annog y dorf i glapio eu cymeradwyaeth mewn arwydd o gefnogaeth i'r bachgen bach saith mis oed.

Gobaith y teulu, sydd yn gefnogwyr brwd o glwb y Toffees, yw casglu £1.5m er mwyn darparu triniaeth i Rupert yn America yn y pen draw.

'Taith anodd o'i flaen'

Wrth ysgrifennu am ei fab ar dudalen codi arian Rupert, dywedodd Dave Smith, sy'n blismon gyda Heddlu'r Gogledd: "Mae ein mab saith mis oed, Rupert, yn fachgen bach hardd, hapus, llawn gwên sy'n cyfarch y byd gyda dim byd ond cariad. 

"Nid yw'n ymwybodol o gwbl o'r daith anodd sydd o'i flaen. 

"Mewn dim ond saith mis byr, mae eisoes wedi dioddef mwy nag y bydd y rhan fwyaf o bobl yn ei wynebu mewn oes. Er gwaethaf popeth, mae'n dal i wenu, a'r wên honno yw'r hyn sy'n rhoi'r nerth i ni barhau i ymladd drosto bob dydd."

Symptomau

Ychwanegodd Mr Smith: "Ar hyn o bryd nid oes iachâd ar gyfer AHC, ac mae symptomau'n amrywio'n fawr o ran amlder a difrifoldeb. Gall penodau gael eu sbarduno gan gyffro, gwres neu oerfel eithafol, twymyn, bwyd, newidiadau golau, ymdrech gorfforol, straen, a chyffwrdd a dŵr. 

"Gall y penodau hyn bara munudau, oriau, neu hyd yn oed ddyddiau, a gallant ddigwydd heb rybudd. 

"Yn bwysig, mae AHC yn cario risg sylweddol uwch o argyfyngau meddygol difrifol a marwolaeth sydyn, yn enwedig yn ystod penodau difrifol sy'n cynnwys anadlu neu gymhlethdodau cardiaidd. Ar hyn o bryd, mae ansicrwydd enfawr o hyd ynghylch dyfodol Rupert."

Dywedodd y bydd ei fab yn gorfod derbyn archwiliadau parhaus, monitro agos, a gofal arbenigol llawn amser gydol oes.

"Rydw i wedi codi arian ar gyfer amryw o elusennau ac achosion da o'r blaen ac ni ddychmygais erioed y byddwn i'n gorfod gofyn am help. Mae codi arian yn anodd iawn, ond does gennym ni ddim dewis arall," ychwanegodd.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.