Dyfodol hen lyfrgell a chlwb snwcer yng Ngwynedd wedi ei sicrhau
Mae cynllun i sicrhau dyfodol hen lyfrgell a chlwb snwcer yng Ngwynedd wedi cymryd cam mawr yn ei flaen ar ôl i werthiant yr adeilad gael ei gwblhau.
Mae'n golygu bod modd i drefnwyr yr ymgyrch allu datblygu hen lyfrgell Deiniolen er budd y gymuned.
Fe fuodd yna ymgyrch i godi arian oedd yn cynnwys rhodd o £10,000 gan Syr Dave Brailsford, un o gewri'r byd seiclo a gafodd ei fagu ym mhentref Deiniolen.
Mewn neges ar gyfryngau cymdeithasol, dywedodd llefarydd ar ran Pwyllgor Pentra Deiniolen bod gwerthiant adeilad yr Hen Lyfrgell bellach wedi’i gwblhau’n llwyddiannus.
"Hoffem ddiolch yn ddiffuant i’r gymuned leol am eu cefnogaeth parhaus, gan gynnwys y nifer fawr o unigolion, teuluoedd a busnesau sydd wedi cyfrannu mewn amrywiol ffyrdd i helpu i gyrraedd y garreg filltir hon.
"Hoffem hefyd ddiolch i’n prif bartneriaid cyllido — Cyngor Gwynedd, HBO a David Brailsford — am eu cefnogaeth hanfodol, a oedd yn allweddol i gwblhau’r gwerthiant."
Dywedodd Lyndsey Pleming, Aelod o’r Bwrdd: “Mae hwn yn foment o falchder mawr i’r Bwrdd a phawb a fu’n rhan o’r gwaith. Mae’n adlewyrchu cryfder partneriaeth a chefnogaeth gymunedol wrth gyflawni breuddwyd hirdymor."
Yn ôl Siôn Fôn, Uwch Gydymaith o gwmni Cyfreithwyr Darwin Gray mae'r cwmni “wrth ein bodd ein bod wedi gallu cefnogi’r gwerthiant hwn, a fydd â dylanwad mor bwysig a chadarnhaol ar y gymuned leol yn Neiniolen."
"Edrychwn ymlaen i gymeryd y cam nesaf o’r gwaith mawr sydd o’n blaenau rwan," meddai'r Pwyllgor.
