'Falch bo' ni wedi cyfarfod': Dau gystadleuydd cyfres gyntaf Amour & Mynydd yn dechrau canlyn
Mae dau gystadleuydd cyfres gyntaf Amour & Mynydd wedi dechrau canlyn ar ôl i'w perthynas flaguro yn dilyn eu hamser yn y chalet yn yr Alpau Ffrengig dros flwyddyn yn ôl.
Daeth Maggie Limerick, 39 o Gaernarfon, a Sion Cynfal, 31 o Flaenau Ffestiniog, yn ffrindiau da yn ystod cyfres gyntaf y rhaglen realiti ar S4C.
Er i'r pâr fynd ar ddêt ar y rhaglen, nid oedd Maggie yn awyddus i fynd am ail ddêt gan nad oedd hi eisiau i Nicola, a oedd yn hoffi Siôn, deimlo'n annifyr.
"O'n i'n gwbo pan nath o ofyn i fi am ail ddêt bo' fi isho gweld os oedd 'na wbath yna ar ôl i ni fynd adra, a rhesyma' fi am neud hynny oedd do'n i'm isho rhywun arall gael y profiad geshi pan o'n i’n love triangle cynta fi," meddai wrth Newyddion S4C.
"Dio'm yn fai ar neb na dim byd fel 'na, ond mae'n anodd iawn gwatchad person ti’n interested ynddyn nhw yn symud ymlaen efo rhywun arall a ti methu neud dim byd amdano fo, ag o'n i ddim isho rhoi Nicola yn y sefyllfa yna."
Yn ôl Maggie, ni allai anwybyddu ei theimladau tuag at Siôn.
"Oedd o yna reit o’r cychwyn i fod yn hollol onast, be' da' chi ddim yn gwybod ydi bo' ni wedi cael snog bach yn y chalet hefyd," meddai.
"So oedd o bob tro yna ag o'n i'n gwbo bo' fi am fynd ymlaen efo petha' pan oeddan ni’n cyrraedd adra - o'n i wedi neud y penderfyniad yna.
"Ond yn y flwyddyn cynta 'na ar ôl y rhaglen, nath petha' jyst ddim pigo fyny. O’n i ddim mewn lle da, nath petha' jyst ddim gweithio allan.
"Wedyn ar ôl y reunion flwyddyn dwytha nath petha' jyst digwydd fel oeddan nhw i fod i dwi’n meddwl."
'Da ni'n gymaint o fêts'
Ers hynny, mae'r pâr wedi mwynhau cael dod i adnabod ei gilydd ac maen nhw bellach yn canlyn.
"Bob tro 'da ni'n gweld ein gilydd, 'da ni’n cal laugh, mae’r chats yn naturiol a dyna be' nath ddenu fi ati hi pan oeddan ni drosodd yn Ffrainc," meddai Siôn, sy'n gweithio ym Mhwerdy Ffestiniog.
"Mae'n lot haws i symud ymlaen efo rhywun pan ti’n gallu siarad yn iawn efo nhw."
Fe aeth Siôn ymlaen i ddweud ei fod o a Maggie yn rhannu'r un diddordebau.
"'Da ni wedi bod ar ambell i hike, atho ni fyny Moel Eilio haf diwethaf a 'da ni wedi bod fyny'r Wyddfa," meddai.
"'Da ni’n licio city breaks, ma' Mags yn rili da am bigo llefydd i fwyta. O'n i yn y brifysgol yn Gaer ac ma' hi wrth ei bodd efo Gaer hefyd, so 'da ni wedi bod i Gaer few times am night out a bwyd a drinks. Dwi'n falch iawn bo' fi wedi mynd ar y rhaglen."
Ychwanegodd Maggie: "Fyswn i byth wedi dod ar ei draws o heb y rhaglen a dwi bach hynach na fo hefyd, so dwi’m yn meddwl 'sa ni byth wedi cyfarfod rili.
"Dwi mor mor lwcus o gael Sion, 'da ni'n gymaint o fêts a 'da ni'n mor debyg - mae'n lyfli cael rhywun sydd ar wavelength fi.
"Dwi jyst mor falch bo' fi wedi cyfarfod fo."
Wrth wylio ail gyfres Amour & Mynydd, sy'n cael ei darlledu ar hyn o bryd, dywedodd Maggie ei bod hi'n mwynhau gweld sut mae'r rhaglen wedi datblygu.
"Dwi wedi gwatchad hwn efo ngheg yn agored i fod yn onast, mae o'n wahanol gêm yn gyfan gwbl achos mae 'na eliminations, pobl newydd yn dod i mewn - mae o 'chydig bach mwy intense 'leni dwi’n meddwl," meddai.
Yn benodol, mae Maggie yn dweud ei bod yn falch bod S4C wedi llwyddo i ddenu cynulleidfa iau i'r sianel.
"Dwi’n meddwl bod S4C efo dipyn bach o reputation o fod yn darlledu Cefn Gwlad, Decrhau Canu, Dechrau Canmol a rhaglenni fel 'na, felly dwi'n meddwl bod o'n rili neis bod na fwy o betha' i generations fengach," meddai.
"Ma' gen ti Marw Gyda Kris, Chris 'Flamebaster' yn cwcio. Ma' hwnna’n tynnu llygad person fengach i S4C, ac mae Amour & Mynydd wedi helpu hefyd."