Ansicrwydd dros ddyfodol Parc Dŵr Cosmeston ar ôl gwrthwynebiad
12/02/2026Mae yna ansicrwydd dros ddyfodol parc dŵr Llyn Cosmeston ar ôl i Gyngor Bro Morgannwg argymell na ddylai ddychwelyd eleni ar ôl protestio gan grŵp lleol.
Mae’r parc, sy’n cynnwys cwrs rhwystrau ar y llyn, wedi wynebu gwrthwynebiad ers iddo gael ei gyhoeddi. Cafodd ei gynnal yng Nghosmeston am dri mis yr haf diwethaf.
Erbyn hyn, mae’r pryderon am effaith y parc ar fywyd gwyllt wedi ysgogi’r cyngor i argymell cynnal asesiad amgylcheddol.
O ganlyniad, ni fydd unrhyw weithgareddau dŵr yn Cosmeston yn ystod y cyfnod o 12 mis tra bydd yr asesiad yn cael ei gynnal.
Bydd Cabinet y Cyngor yn ystyried yr argymhellion ynghylch Cosmeston, ac fe fydd penderfyniad yn cael ei wneud am ddyfodol y parc ar ôl blwyddyn o brofion ansawdd dŵr.
Mae Grŵp Gweithredu’r Fro wedi’i ffurfio i wrthwynebu’r parc.
Y llynedd, cyn iddo agor i’r cyhoedd, ffurfiwyd cadwyn ddynol o amgylch y llyn mewn protest. Yn ogystal, casglodd deiseb yn gwrthwynebu’r cwrs 7,000 o lofnodion.
Dywedodd cyd-sylfaenydd y grŵp, Phil Newman: “Ers 1970 mae bywyd gwyllt wedi bod yn dirywio ac yn diflannu – mae’n rhaid i ni fuddsoddi ynddo.”
Ychwanegodd: “Mae bywyd gwyllt ym Mhrydain wedi dioddef ers blynyddoedd. Mae’n rhaid dechrau gofalu am natur a buddsoddi yn eu cynefinoedd.”
Er y protestio, dangosodd adolygiad annibynnol a gomisiynwyd gan y cyngor bod y parc wedi denu tua 16,000 o ymwelwyr rhwng Gorffennaf a Medi y llynedd, ac o ganlyniad wedi cael effaith economaidd gadarnhaol.
Roedd y parc dŵr wedi’i leoli ym Mae Caerdydd yn flaenorol, ond ar ôl cynnydd mewn achosion o salwch a oedd wedi’u cysylltu ag ansawdd y dŵr, cafodd ei symud i Cosmeston.
Cyn 2025, roedd nofio wedi’i wahardd yng Nghosmeston oherwydd ei ddefnydd diwydiannol yn y gorffennol fel chwarel.
Dyfodol y parc a’r llyn
Bydd yr asesiad amgylcheddol yn cynnwys arolygon bridio adar a phrofion ansawdd dŵr.
Dywedodd y cyngor bod "profion annibynnol rheolaidd" wedi digwydd tra bod y cwrs rhwystrau ar waith, a ddangoswyd dim effaith negyddol ar yr amgylchedd.
Mewn adolygiad annibynnol, cafodd sampl o ddŵr y llyn o Awst 2025 ei gategoreiddio fel ‘gwael’ o ran E. coli ac Enterococci. Ond, yn ôl yr adroddiad, roedd hyn yn ddigwyddiad ynysig, ac roedd samplau eraill o safon uwch.
Yn Awst 2025, dangosodd profion lefel o 400 o E. coli. Yng Ngorffennaf 2024, roedd yna bigyn o 16,000 o E. coli mewn profion a gynhaliwyd gan Fro Morgannwg.
Mae Sefydliad Iechyd y Byd yn gweld y lefelau hyn fel halogedig, ac yn awgrymu y dylid osgoi nofio.
Yn ôl y cynghorydd lleol, Bronwen Brooks, mae’r cyngor yn “awyddus i archwilio defnyddiau newydd posibl ar gyfer Cosmeston a allai ddenu ymwelwyr newydd”, ond ei bod yn “hanfodol nad yw unrhyw fenter newydd yn achosi unrhyw niwed i ecoleg y parc”.
