Danfon dyn oedd ar ffo rhag yr FBI yn Nyffryn Conwy yn ôl i America
Danfon dyn oedd ar ffo rhag yr FBI yn Nyffryn Conwy yn ôl i America
Dim y lle cyntaf byddech chi'n disgwyl un o brif dargedau yr FBI ei alw yn gartref.
Yma ar gyrion Llanrwst oedd Daniel Andreas San Diego yn cuddio.
Mewn tŷ anghysbell ger Maenan, Dyffryn Conwy, y cafodd ei ganfod.
Yn ôl cymdogion roedd San Diego yn berson dymunol, dyn hoffus a distaw.
Roedd yr FBI yn ei ystyried yn derfysgwr honedig a all fod yn beryglus ac arfog.
Daeth 20 mlynedd o chwilio amdano i ben ychydig dros flwyddyn yn ôl.
Bellach yn 47 oed, mae San Diego wedi'i amau o osod ffrwydron yn llawn hoelion yn San Francisco, California, yn 2003.
Mae o wedi'i gysylltu a grwpiau eithafol dros hawliau anifeiliaid.
Gyda gwobr o $250,000 uwch ei ben, roedd yn ymddangos ar yr un rhestr FBI ag Osama Bin Laden y dyn tu ôl i ymosodiadau Al Qaeda ar America.
Fis Tachwedd 2024 ar ôl cyrch ar ei gartref cafodd San Diego ei arestio.
Ers hynny, mae 'di bod yng ngharchar Belmarsh yn aros i glywed a fydd rhaid iddo ddychwelyd adre i sefyll ei brawf.
Yn ôl ei dim cyfreithiol, ni fyddai'n bosib iddo gael achos teg.
Ond yn ôl barnwr yn Llys Ynadon Westminster heddiw mae digon o dystiolaeth i gyfiawnhau ei yrru nôl.
"'Di gwrthod cais estraddodi ddim yn beth cyffredin, ond gall ddigwydd.
"Y meini prawf ydy mae'n rhaid bod y drosedd yn drosedd yn y ddwy wlad mae'n rhaid bod hi'n ddigon difrifol hynny yw haeddu o leia 12 mis ac mae'n rhaid bod rhyw dystiolaeth arwynebol bod y drosedd wedi digwydd."
Ydach chi'n gweld siawns gwirioneddol i apel lwyddo?
"Un modd o apêl sydd a hynny i'r Ysgrifennydd Cartref.
"Mae'n rhaid gwneud hynny o fewn 14 diwrnod i'r penderfyniad a dyma lle mae gwleidyddiaeth yn dod mewn iddi, ddylai fo ddim!
"Y gwir amdani ydy mae 'na berthynas dda rhwng Prydain ac UDA ac anaml iawn mae'r ddwy wlad yn gwrthod cais ei gilydd."
Apêl neu beidio, mae'n ymddangos mai ym Mhrydain fydd Daniel San Diego am y tro.
Mae'n bur debyg bydd ei dynged, ar ôl blynyddoedd ar ffo yn cael ei benderfynu yr ochr draw i'r Iwerydd.

