Sgandal Epstein: Tywysog a Thywysoges Cymru yn 'bryderus iawn'
Mae Tywysog a Thywysoges Cymru wedi dweud eu bod nhw'n “bryderus iawn” am y cysylltiadau rhwng Andrew Mountbatten-Windsor a sgandal Jeffrey Epstein.
Mewn datganiad fore Llun fe gyniogiodd y ddau sylw am y sefyllfa am y tro cyntaf ers i ddogfennau yn ymwneud ag Epstein ddod i lygaid y cyhoedd.
Fe gollodd Andrew ei deitl tywysog ym mis Hydref wedi i honiadau ddod i’r amlwg ynglŷn â'i berthynas gyda Jeffrey Epstein.
Dywedodd ar yr un pryd y bydd yn rhaid iddo symud o'r Royal Lodge, Windsor. Mae bellach wedi gadael ei gartref yno a symud i Stad Sandringham yn Norfolk.
Mae Andrew Mountbatten-Windsor wedi gwadu gwneud unrhywbeth o'i le yn y gorffennol.
Cafodd mwy na thair miliwn o ddogfennau yn ymwneud â Epstein eu cyhoeddi gan Adran Gyfiawnder yr Unol Daleithiau ddechrau’r mis.
Wrth i William deithio i Saudi Arabia ddydd Llun, fe ddywedodd Palas Kensington bod y Tywysog a Thywysoges yn “bryderus iawn” am ddatgeliadau yr wythnosau diwethaf.
“Rwyf yn gallu cadarnhau bod Tywysog a Thywysoges Cymru wedi eu pryderu’n fawr gan y datgeliadau parhaus,” meddai’r llefarydd.
“Mae eu meddyliau yn parhau gyda’r dioddefwyr.”
Fe fydd William yn treulio’r dyddiau nesaf yn y Dwyrain Canol, gan dreulio’i ddiwrnod cyntaf yno gydag arweinydd Saudi Arabia, Y Tywysog Coronog Mohammed bin Salman.
Y gred yw ei fod wedi rhannu ei safbwynt am Andrew ddydd Llun fel bod modd iddo roi ei sylw llawn i faterion eraill yn ystod ei daith.
Honiadau newydd
Mae ail ddynes wedi honni bod y troseddwr rhyw Jeffrey Epstein wedi ei hanfon i’r DU at Andrew Mountbatten-Windsor ers i’r dogfennau newydd yn ymwneud ag Epstein gael eu cyhoeddi.
Mae Heddlu Thames Valley wedi dweud ei bod yn ymchwilio honiadau bod y fenyw wedi ei hanfon i Brydain gan Epstein ar gyfer gweithred rywiol gydag Andrew.
Yn ôl cyfreithwyr sydd yn cynrychioli'r fenyw fe wnaeth hi dreulio'r noson gydag Andrew yn 2010 a chael taith o gwmpas Palas Buckingham. Roedd y fenyw, sydd ddim yn Brydeinwraig yn ei 20au ar y pryd.
Dyma'r tro cyntaf mae un o oroeswyr y pedoffilydd Epstein wedi honni bod gweithred rywiol wedi digwydd yn un o gartrefi'r Teulu Brenhinol.
Yr honiad diweddaraf yw ei fod hefyd wedi rhannu adroddiadau cyfrinachol am ymweliadau swyddogol â Hong Kong, Fietnam a Singapore yn ei rôl fel llysgennad masnach y DU.
Llun: Jordan Pettitt/PA Wire
