Ergyd arall i Starmer wrth i'w bennaeth cyfathrebu adael
Mae cyfarwyddwr cyfathrebu Downing Street, Tim Allan wedi cyhoeddi ei fod wedi penderfynu rhoi'r gorau i'w rôl yn Llywodraeth y DU.
Mewn datganiad fore Llun dywedodd y bydd yn "camu " o'i rôl fel y gallai "tîm Rhif 10 newydd gael ei adeiladu."
"Rwyf yn dymuno pob llwyddiant i'r Prif Weinidog a'i dîm," meddai.
Daw ei gyhoeddiad wedi i bennaeth staff y Prif Weinidog Keir Starmer, Morgan McSweeney, ymddiswyddo lai nag 14 awr ynghynt yn sgil sgandal Peter Mandelson.
Fe ddywedodd Morgan McSweeney ei fod yn cymryd "cyfrifoldeb llawn" am benodiad Mandelson fel llysgennad Prydain ar gyfer yr Unol Daleithiau.
Yn y cyfamser mae Keir Starmer wedi ei dweud ei fod yn fodlon ymladd am ei swydd wrth i densiynau barhau i godi y tu mewn i'r blaid Lafur a thu hwnt.
Brynhawn Llun, mynnodd llefarydd ar ran Downing Street na fydd Prif Weinidog y DU yn ymddiswyddo, ac y bydd yn "canolbwyntio ar y swydd sydd angen ei chyflawni."
Yn ddiweddarach ddydd Llun, fe fydd Starmer yn cyfarfod ag ASau Llafur yn breifat yn ystod cyfarfod wythnosol Seneddol Llafur.
Y cefndir
Cafodd Peter Mandelson ei ddiswyddo ym mis Medi'r llynedd yn sgil gwybodaeth newydd am ei berthynas â'r troseddwr rhyw, Jeffrey Epstein.
Mae honiadau wedi dod i'r amlwg fod Peter Mandelson wedi trosglwyddo gwybodaeth sensitif i Epstein. Roedd yn weinidog yn Llywodraeth Lafur Gordon Brown ar y pryd.
Daw hyn ar ôl i Adran Gyfiawnder America gyhoeddi mwy na thair miliwn o ddogfennau yn ymwneud ag Epstein ddiwedd mis Ionawr.
Ddydd Sul fe ddywedodd McSweeney fod rhoi'r swydd llysgennad i Mandelson wedi "niweidio ein plaid, ein gwlad ac ymddiriedaeth mewn gwleidyddiaeth ei hun."
Fe wnaeth Syr Keir Starmer ymateb i ymddiswyddiad ei bennaeth staff trwy ddweud ei fod yn "ddyledus iddo" am ei waith gyda'r blaid Lafur.
Y gred yw bod y Prif Weinidog a Mc Sweeney wedi penderfynu ar y cyd ei bod hi'n amser iddo roi'r gorau i'w swydd.
'Amserlen dynn'
Mae rhai ASau Llafur i'r chwith o'r blaid gan gynnwys Brian Leishman, Ian Byrne a Kim Johnson wedi dweud bod hi'n amser i Starmer hefyd adael rhif 10.
Yn y Times mae dau weinidog yn y Cabinet wedi dweud bod Syr Keir yn "wannach" ac y gallai "gamu o'r neilltu unrhyw funud". Ond yn ôl Rhif 10 dyw hynny yn "bendant ddim yn wir".
Mae penaethiaid undebau hefyd wedi bod yn rhoi pwysau arno i fynd gydag Ysgrifennydd Cyffredinol Undeb Brigadau Tân, Steve Wright yn dweud y dylai ymddiswyddo.
Mynnu bod rhaid iddo fynd hefyd mae'r gwrthbleidiau.
Ond mae rhai sydd yn agos at Syr Keir Starmer wedi bod yn ei amddiffyn. Dywedodd yr AS John Slinger mai'r "peth olaf mae'r blaid eisiau yw damcaniaethu am arweinydd newydd".
Dweud bod gan Keir Starmer "amserlen dynn iawn i brofi bod ganddo'r hyn sydd angen i'n harwain ni" wnaeth yr Aelod Seneddol Rachael Maskell wrth siarad ar Radio 4.
Mae Jill Cuthbertson a Vidhya Alakeson wedi eu penodi fel penaethiaid staff dros dro ar ôl i Morgan McSweeney adael ei swydd.
Llun: Peter Nicholls/PA
