Cyhuddo pedwar o lofruddiaeth wedi marwolaeth bachgen 17 oed yn Abertridwr
Mae pedwar o bobl wedi eu cyhuddo o lofruddiaeth wedi marwolaeth bachgen 17 oed yn Abertridwr ger Caerffili ddydd Iau, meddai Heddlu Gwent.
Bydd y pedwar - tri dyn 18, 24 a 26 oed, a menyw 24 oed - yn ymddangos gerbron Llys Ynadon Casnewydd ddydd Llun 9 Chwefror.
Mae menyw 28 oed o Henffordd a gafodd ei harestio ar amheuaeth o gynorthwyo troseddwr bellach wedi'i rhyddhau dan ymchwiliad.
Fe aeth swyddogion i eiddo yn Stryd Francis Isaf tua 17.45 ddydd Iau 5 Chwefror ar ôl adroddiadau bod bachgen yn ei arddegau wedi ei anafu yn ddifrifol.
Cyhoeddwyd bod bachgen 17 oed o Abertridwr, Tristan Shae Kerr, wedi marw yn y fan a'r lle.
Mae swyddogion sydd wedi'u hyfforddi'n arbennig yn parhau i gefnogi'r teulu.
Dywedodd y Prif Arolygydd Ditectif Jitka Tomkova-Griffiths: "Rydym yn deall bod llawer iawn o ddiddordeb wedi bod yn yr ymchwiliad hwn, fodd bynnag, gofynnwn i bobl beidio â dyfalu ynghylch hunaniaeth y rhai dan sylw.
"Mae ein meddyliau'n parhau gyda theulu a ffrindiau'r dioddefwr.
"Os oes gan unrhyw un unrhyw wybodaeth, siaradwch â'n swyddogion neu cysylltwch â ni yn y ffordd arferol."
Gall unrhyw un sydd â gwybodaeth gysylltu â ‘r heddlu drwy ffonio 101, anfon neges uniongyrchol ar gyfryngau cymdeithasol, neu drwy'r ffurflen ar wefan Heddlu Gwent gan ddyfynnu cyfeirnod 2600038325.
Gallwch hefyd gysylltu â Crimestoppers yn ddienw ar-lein neu dros y ffôn.