Rhybudd melyn am law trwm i'r de

Rhybudd tywydd 9 Chwefror 2026

Mae’r Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi rhybudd melyn am law i'r rhan helaeth o dde Cymru ddydd Llun.

Bydd y rhybudd yn dod i rym am 12.00 ddydd Llun ac yn dod i ben am hanner nos.

Mae disgwyl i law trwm ymledu ar draws siroedd de Cymru, gyda pheryg y gallai achosi llifogydd mewn rhai cartrefi a busnesau. 

Gallai cawodydd trwm achosi oedi ar y ffyrdd ac i drafnidiaeth gyhoeddus.Mae'n bosib bydd y glaw yn amharu ar gyflenwadau trydan am gyfnod.

"Bydd bandiau o law a chawodydd trwm yn symud tua'r dwyrain ar draws rhannau deheuol Cymru a Lloegr yn ystod prynhawn a nos Lun," meddai llefarydd ar ran y Swyddfa Dywydd. 

"Mae 10-15 mm o law yn debygol o ddisgyn yn eang, gyda 20-30 mm mewn rhai mannau sy'n agored i'r gwyntoedd cryfion o'r de a'r de-ddwyrain."

Bydd y rhybudd yn effeithio ar y siroedd canlynol:

  • Abertawe
  • Blaenau Gwent
  • Bro Morgannwg
  • Caerdydd
  • Caerffili
  • Casnewydd
  • Castell Nedd-Port Talbot
  • Merthyr Tudful
  • Pen-y-bont ar Ogwr
  • Powys
  • Rhondda Cynon Taf
  • Sir Benfro
  • Sir Fynwy
  • Sir Gâr
  • Torfaen

 

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.