Cyn ofalwraig o Borthmadog yn datblygu platfform digidol i wella gofal dementia
Mae cyn ofalwraig o Borthmadog yng Ngwynedd yn datblygu platfform digidol i wella gofal dementia yng Nghymru.
A hithau wedi gweithio yn y maes gofal am bron i 30 mlynedd, mae Dr Emma Williams yn dweud bod diffyg hyfforddiant dementia ar gyfer gofalwyr cyflogedig yn arwain at ofal o safon isel, mwy o ofid i gleifion, a chyfraddau uwch o ofalwyr yn gadael eu swyddi.
Yn ôl Cymdeithas Alzheimer’s, nid yw’n ofynnol i staff gofal yng Nghymru a Lloegr gwblhau hyfforddiant dementia ar hyn o bryd.
Ond mae hyd at 90% o bobl sy’n byw gyda dementia yn profi gofid sy’n gallu arwain at gynnwrf neu ymddygiad ymosodol.
Dywedodd Dr Williams: "Mae’r person gyda dementia yn ceisio dweud rhywbeth wrthym ni, ond mae beth maen nhw’n trio ei ddweud yn mynd ar goll oherwydd bod dementia yn amlwg yn effeithio ar sut maen nhw’n cyfleu eu hanghenion."
Er mwyn gwella gofal, mae Dr Williams - sy'n arbenigwr ymddygiad dementia - yn dweud bod angen i ofalwyr ddeall be' sy'n achosi gofid.
Mae Less Distress yn blatfform digidol sy’n defnyddio technegau dadansoddi ymddygiad gyda deallusrwydd artiffisial i ragweld ac atal gofid rhag digwydd.
Y syniad ydi y bydd gofalwyr yn cadw cofnod dyddiol yn y system a fydd yn dadansoddi patrymau amser, lleoliadau a'r hyn sy'n tanio teimladau, er mwyn rhagweld pryd y bydd gofid yn debygol, gan ddarparu cyngor sy’n seiliedig ar dystiolaeth am yr hyn a all fod yn digwydd a sut y dylai gofalwyr ymateb.
Dros amser, bydd y platfform yn dod i adnabod bob claf ac yn darparu gwybodaeth amdanyn nhw i ofalwyr.
Mae’r platfform yn cael ei gefnogi gan Fusnes Cymru, Cymdeithas Alzheimer’s ac Innovate UK.
'Rhwystredig'
Mae Dr Williams wedi bod yn datblygu'r platfform yn ei hamser hamdden dros y ddwy flynedd diwethaf - ac mae'r gwaith caled yn dechrau talu ar ei ganfed wrth iddi gael ei chyhoeddi yn un o 100 o entrepreneuriaid benywaidd mwyaf ysbrydoledig y DU eleni.
"Dwi’n teimlo’n rhwystredig am y system a’r diffyg hyfforddiant sy’n cael ei roi i ofalwyr," meddai wrth Newyddion S4C.
"Mae lot o bobl yn mynd i weithio yn y byd gofal yn meddwl y byddan nhw’n gallu helpu pobl a gwneud gwahaniaeth i fywydau.
"Ond mae gofalwyr yn ofnadwy o brysur, maen nhw’n trio eu gorau, ond dydyn nhw ddim yn cael yr offer sydd eu hangen arnyn nhw i lwyddo."
Erbyn diwedd 2025, roedd un o bob saith o weithwyr gofal cymdeithasol cofrestredig yng Nghymru wedi gadael y gofrestr yn y flwyddyn cyn 31 Mawrth, 2025.
Ychwanegodd: "O ganlyniad i staff yn symud ymlaen mor sydyn, mae gennych staff newydd sy’n trio gofalu am bobl dydyn nhw ddim yn 'nabod yn dda iawn.
"Felly mae’n creu system lle dydi pobl ddim yn cael be' maen nhw ei angen - gofalwyr a phobl sy’n byw gyda dementia."
Yn ôl Dr Williams, bydd y platfform yn gwneud gwahaniaeth i fywydau cleifion dementia a'u gofalwyr.
"I’r person sy’n byw gyda dementia rydym yn rhagweld y bydd safon eu bywydau yn gwella, oherwydd bydd eu hanghenion yn cael eu diwallu," meddai.
"Y gobaith ydi y byddan nhw’n cael eu gofalu mewn ffordd fwy effeithiol ac mewn ffordd maen nhw’n ei ddeall ac yn ei oddef, a dylai hyn arwain at lai o placement breakdowns, llai o feddyginiaeth antiseicotig a gwell gofal o ofalwyr eu hunain.
"Mae safon bywyd gofalwr yn gallu bod yn ofnadwy o wael pan does ganddyn nhw ddim cefnogaeth, maen nhw’n gallu teimlo’n unig iawn.
"Rydym yn rhoi’r wybodaeth a’r pŵer yn eu dwylo nhw y gallan nhw gael mynediad ato unrhyw bryd maen nhw ei angen."
Dros y misoedd nesaf, bydd chwe chartref gofal yng ngogledd Cymru yn treialu'r platfform gyda chleifion dementia.
Dywedodd Llywodraeth Cymru: "Mae cefnogi datblygiad gweithwyr gofal cymdeithasol yn parhau i fod yn flaenoriaeth, ac mae Gofal Cymdeithasol Cymru yn chwarae rhan hanfodol wrth sicrhau hyfforddiant a datblygiad o ansawdd uchel i sicrhau bod gan ein gweithlu y sgiliau i ddiwallu anghenion cleifion.
"Ar hyn o bryd rydym yn darparu £12.7m i Fyrddau Partneriaeth Rhanbarthol bob blwyddyn i gefnogi'r gwaith o weithredu'r Cynllun Gweithredu Dementia ac rydym yn ymgynghori ar strategaeth dementia ar gyfer y 10 mlynedd nesaf."
