‘Rydw i wedi ennill pob brwydr’ meddai Keir Starmer wrth iddo oroesi ymgais i’w ddisodli
Mae Keir Starmer wedi dweud wrth ASau'r Blaid Lafur ei fod wedi “ennill pob brwydr” hyd yma wrth iddo oroesi ymgais i’w ddisodli.
Fe wnaeth cabinet Llywodraeth y DU gefnogi'r Prif Weinidog i aros yn ei swydd ar ôl i arweinydd Llafur yn yr Alban, Anas Sarwar, alw arno i fynd ddydd Llun.
Bydd Keir Starmer yn cadeirio cyfarfod o’i Gabinet ddydd Mawrth, ar ôl annerch cyfarfod o ASau ei blaid yn San Steffan nos Lun.
Dywedodd wrth yr ASau ei fod "wedi ennill pob brwydr rydw i erioed wedi bod ynddi" ac nad oedd yn "barod i gerdded i ffwrdd".
Ychwanegodd ei fod am fod yn fwy "agored a chynhwysol" wrth ddewis sut i reoli'r llywodraeth o Rif 10 Stryd Downing.
Yn ei gynhadledd newyddion ddydd Llun, dywedodd Anas Sarwar bod sgandal Mandelson yn tynnu oddi ar waith Llafur, a bod angen i hynny ddod i ben.
Penderfynodd arweinydd y blaid yng Nghymru, y Prif Weinidog Eluned Morgan, beidio â chynnig sylw ddydd Llun.
Fe wnaeth arweinydd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth, gyhuddo Eluned Morgan o fod yn "hapus i'r anhrefn barhau" yn sgil y galwadau ar Syr Keir i ymddiswyddo.
Y cefndir
Ddydd Sul cyhoeddodd pennaeth staff y Prif Weinidog Keir Starmer, Morgan McSweeney, ei fod yn ymddiswyddo yn sgil sgandal Peter Mandelson.
Roedd Peter Mandelson wedi ei ddiswyddo ym mis Medi'r llynedd yn sgil gwybodaeth newydd am ei berthynas â'r troseddwr rhyw, Jeffrey Epstein.
Daeth honiadau i'r amlwg yr wythnos diwethaf fod Peter Mandelson wedi trosglwyddo gwybodaeth sensitif i Epstein. Roedd yn weinidog yn Llywodraeth Lafur Gordon Brown ar y pryd.
Daw hyn ar ôl i Adran Gyfiawnder America gyhoeddi mwy na thair miliwn o ddogfennau yn ymwneud ag Epstein ddiwedd mis Ionawr.
Ddydd Sul dywedodd McSweeney fod rhoi'r swydd llysgennad i Mandelson wedi "niweidio ein plaid, ein gwlad ac ymddiriedaeth mewn gwleidyddiaeth ei hun."
Fe wnaeth Syr Keir Starmer ymateb i ymddiswyddiad ei bennaeth staff trwy ddweud ei fod yn "ddyledus iddo" am ei waith gyda'r blaid Lafur.
Y gred yw bod y Prif Weinidog a McSweeney wedi penderfynu ar y cyd ei bod hi'n amser iddo roi'r gorau i'w swydd.
Mae Jill Cuthbertson a Vidhya Alakeson wedi eu penodi fel penaethiaid staff dros dro ar ôl i Morgan McSweeney adael ei swydd.
Mae disgwyl i Syr Keir deithio i'r Almaen ddiwedd yr wythnos ar gyfer Cynhadledd Diogelwch Munich.
Llun gan PA / James Manning.
