Palas Buckingham yn addo 'cefnogi'r heddlu' wedi honiadau pellach am Andrew Mountbatten-Windsor
Mae Palas Buckingham wedi dweud y byddai'n 'cefnogi'r' heddlu pe bai nhw yn cysylltu i drafod yr honiadau diweddaraf am frawd y Brenin, Andrew Mountbatten-Windsor.
Mae'r heddlu wedi cadarnhau eu bod yn asesu honiadau fod Andrew Mountbatten-Windsor wedi rhannu gwybodaeth gyfrinachol gyda'r troseddwr rhyw Jeffrey Epstein yn sgil ei rôl fel cennad masnach y Deyrnas Unedig.
Cynyddu mae'r trafferthion i'r frenhiniaeth ac i Syr Keir Starmer, wedi i'r awdurdodau yn America ryddhau miliynau o ddogfennau yn ymwneud â Jeffrey Epstein.
Dywedodd llefarydd ar ran Palas Buckingham nos Lun: "Tra bo'r honiadau penodol yn fater i Mr Mountbatten-Windsor eu hateb, os y byddai'r heddlu yn cysylltu â ni, byddem yn barod i'w cefnogi, fel y byddech yn disgwyl.
"Fel rydym eisoes wedi nodi, mae meddyliau'r Brenin a'r Frenhines, wedi, ac yn parhau i fod gyda dioddefwyr, o unrhyw a phob math o gamdriniaeth."
Dyw'r heddlu ddim wedi cysylltu â Phalas Buckingham.
Yn gynharach ddydd Llun, dywedodd Tywysog a Thywysoges Cymru eu bod nhw'n “bryderus iawn” am y cysylltiadau rhwng Andrew Mountbatten-Windsor â sgandal Jeffrey Epstein.
Mewn datganiad fe wnaeth y ddau sylw am y sefyllfa, am y tro cyntaf ers i'r dogfennau yn ymwneud ag Epstein ddod i lygaid y cyhoedd.
Fe gollodd Andrew ei deitl tywysog ym mis Hydref wedi honiadau ynglŷn â'i berthynas â Jeffrey Epstein.
Dywedodd ar y pryd y byddai'n rhaid iddo symud o'r Royal Lodge, Windsor. Mae bellach wedi gadael ei gartref yno a symud i Stad Sandringham yn Norfolk.
Mae Andrew Mountbatten-Windsor wedi gwadu gwneud unrhywbeth o'i le yn y gorffennol.
Maxwell
Yn y cyfamser, mae Ghislaine Maxwell wedi gwrthod ateb cwestiynau yng Nghyngres yr Unol Daleithiau am y sgandal yn ymwneud â'i chyfaill Jeffrey Epstein.
Yn ystod ei hachos a barodd dair wythnos yn 2021, cafodd Maxwell ei disgrifio gan erlynwyr fel dynes "beryglus" a oedd wedi denu merched bregus yn eu harddegau i gartrefi Epstein er mwyn iddo eu cam-drin yn rhywiol.
Ymddangosodd y carcharor 64 oed o flaen un o bwyllgorau'r Gyngres ddydd Llun, ond yn ôl yr aelodau a oedd yn bresennol, cymrodd ei chyfreithiwr y cyfle hwnnw i "ymgyrchu" am bardwn iddi gan yr Arlywydd Donald Trump.
Mewn neges ar gyfrwng X, ar ôl y sesiwn holi, dywedodd David Markus y byddai Maxwell yn "barod i siarad yn llawn a gonest, pe bai'r Arlywydd Trump yn ymddwyn yn drugarog tuag ati hi."
Ychwanegodd Mr Markus: "Mae'r gwirionedd yn bwysig. Er enghraifft, mae'r Arlywydd Trump a'r (cyn) Arlywydd Clinton yn ddieuog o unrhyw ddrwgweithredu
"Gall Ms Maxwell egluro pam, ac mae hawl gan y cyhoedd glywed yr eglurhad hwnnw."
Dywedodd cadeirydd y pwyllgor, James Comer, wrth newyddiadurwyr na ddylai Maxwell gael yr hawl i imwnedd.
"Mae hyn yn amlwg yn siomedig iawn, roedd gennym nifer o gwestiynau i'w gofyn am y troseddau y cyflawnodd hi ac Epstein," meddai.

