Darn arian newydd er cof am y Frenhines Elizabeth II yn hollti barn
Mae darnau o arian newydd a gafodd eu creu er cof am Frenhines Elizabeth II wedi derbyn beirniadaeth arlein am nad ydyn nhw yn nhyb rhai yn edrych yn ddigon tebyg i'r diweddar frenhines.
Fe wnaeth Bathdy Brenhinol Awstralia gyhoeddi darnau o arian $5 (£2.56) a 50 sent yn gynharach yn yr wythnos er mwyn dathlu ei phen-blwydd.
Ond mae’r ymateb wedi bod yn gymysg ar y cyfryngau cymdeithasol, gyda nifer wedi dweud nad ydyn nhw'n edrych ddim byd tebyg i'r frenhines a deyrnasodd am dros 70 mlynedd.
“Mae’n rhaid mai hon yw’r portread mwyaf annymunol i ymddangos ar ddarn o arian,” meddai un person mewn ymateb.
“Mae ‘na reswm bod y mwyafrif o bortreadau yn cael eu gwneud o’r ochr. Mae’n edrych fel ei bod wedi rhedeg mewn i wal,” medd person arall.
“Os oeddwn i wedi gweld y wyneb heb y gwallt a’r perlau, fyddwn i byth yn gwybod pwy y dylai fod,” meddai rhywun arall.
Roedd rhai pobl hefyd wedi cymharu’r gwaith celf i gymeriadau gwahanol, gan gynnwys Mrs Doubtfire a gafodd ei chwarae gan Robin Williams yn 1993.
Ond roedd rhai pobl yn hoff o’r darnau o arian newydd, gan ganmol Y Bathdy Brenhinol Awstralia am ddathlu’r ddiweddar frenhines.
Dywedodd llefarydd ar ran Bathdy Brenhinol Awstralia bod y rhan fwyaf o'r darnau o arian bellach wedi cael eu prynu.
Llun: Y Bathdy Brenhinol Awstralia
