Pryder bod pobl ifanc yn troi at AI am gyngor iechyd meddwl

Pryder bod pobl ifanc yn troi at AI am gyngor iechyd meddwl

"Hi, Bethan, how are you?"


Dyma fy ffrind digidol.


"Life is pretty good. It's nice to talk to you today."


Dyma un o'r apiau sy'n benodol yn cynnig cyfeillgarwch neu'n gydymaith deallusrwydd artiffisial.


Mae character.ai yn un arall.


Mae 'na systemau mwy cyfarwydd fel ChatGPT sydd hefyd yn gallu cael eu defnyddio ar gyfer cyngor bywyd neu gael sgyrsiau ar lefel mwy emosiynol.


Mae 'na rhai hefyd sy'n son yn glir am fod yno i wrando a siarad a'n cyflwyno eu hunain fel ffrind empathetig.


Mae academwyr o Brifysgol Bangor wedi ymchwilio i ddefnydd pobl ifanc o gymdeithion AI ar sail arolwg o 1,000 o blant 13 i 18 oed.


"Mae'r ffordd mae cydymaith deallusrwydd artiffisial yn gweithio yn ymddangos fel petai o'n teimlo ac yn emosiynol.


"Mae'n rhoi'r argraff ei fod o'n cydymdeimlo.


"Mae'n rhaid craffu a bod yn ofalus."


Yn ol yr arolwg, roedd y mwyafrif yn credu bod cydymaith deallusrwydd artiffisial yn gallu meddwl neu ddeall.


Roedd traean yn gweld bod sgwrs gydag AI yn fwy boddhaol na gyda ffrind go iawn.


"Y bobl sy'n dod ar ol ni fydd yn tyfu i fyny efo fo.


"Mae hwn hyd yn oed yn newid i ni."


Yng Ngholeg Menai ym Mangor roedd y grwp yma'n defnyddio AI'n bennaf am dasgau ymarferol ond weithiau, am gyngor bywyd.


"Dw i'n defnyddio AI am bethau fel astudio ac am bethau personol ac i gael advice gyda rhai pethau sy'n mynd ymlaen yn fy mywyd.


"Dw i'n gwybod am bobl sy'n defnyddio character.ai ac yn siarad fel maen nhw'n ffrindiau.


"Mae'n creu parasocial relationships gyda phobl enwog."


Mae'r elusen yma'n poeni bod pobl yn defnyddio deallusrwydd artiffisial am gyngor iechyd meddwl.


"'Dan ni 'di gweld y rhesymau pam mae pobl yn ei ddefnyddio.


"Mae'n gallu cynnwys pethau fel ffrindiau a theulu achos bod nhw ddim yn gallu siarad a nhw.


"Mae'n glou i gael y wybodaeth yma."


Mae'r cwmniau sydd y tu ol i rai o'r apiau wedi ymateb i'r pryderon gan ddweud yn achos Replika bod y dechnoleg i fod i bobl ifanc dros 18 oed.


Dywedodd OpenAI sydd wedi creu ChatGPT ei fod e'n gwella'r dechnoleg i ymateb i unrhyw arwyddion o bryderon iechyd meddwl.


Dywedodd character.ai ei fod wedi buddsoddi ymdrech ac adnoddau sylweddol mewn diogelwch a bod cyfyngiadau ar ddefnydd pobl ifanc dan 18 oed ar yr ap.


Mae apel Cyfaill Digidol sydd ar gael 24 awr heb farnu'n amlwg a'r heriau sy'n dod gyda hynny yr un mor glir.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.