Sir Benfro: Panda coch pedwar mis oed wedi marw

22/01/2026
Bam Bam

Mae panda coch pedwar mis oed mewn parc byd natur yn Sir Benfro wedi marw yn dilyn salwch byr.

Dywedodd Manor Wildlife Park bod y tîm "wedi gweithio drwy'r dydd a'r nos i ddarparu gofal i Bam Bam, ond nid oedd yn ddigon cryf i oroesi".

Roedden nhw'n "drist iawn" o gyhoeddi ei fod wedi marw.

Cafodd Bam Bam ei eni ym mis Medi'r llynedd ynghyd â'i frawd Fred a'i chwaer Pebbles.

Yn ôl y parc yn Ninbych-y-pysgod, mae Fred a Pebbles yn parhau i ffynnu gyda'u mam Betty.

Mae'r panda coch yn perthyn i rywogaeth sydd mewn perygl.

Y gred yw bod llai na 10,000 ohonynt ar ôl yn y gwyllt.

 

 

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.