Gwynedd: Carcharu dau ddyn am ddwyn poteli siampên

Lladron Tywyn

Mae dau ddyn wedi eu carcharu ar ôl dwyn poteli siampên o siop yn Nhywyn, Gwynedd.

Roedd Rees Vincent Pennington, 33 oed, a Carl Joseph Ashmore, 36 oed, y ddau heb gyfeiriad sefydlog, wedi eu cyhuddo o sawl lladrad o siop Co-op ar Ffordd yr Orsaf.

Digwyddodd y troseddau ar chwe achlysur gwahanol rhwng 7 a 9 Ionawr, gyda'r ddau yn dwyn cyfanswm o 18 potel o siampên.

Cafodd Ashmore ei gyhuddo o dri lladrad arall o alcohol o’r un siop ar 20 Ionawr.

Yn y llys, cyfaddefodd Pennington ac Ashmore i’r holl gyhuddiadau yn eu herbyn.

Cafodd y ddau eu dedfrydu i 18 wythnos yr un yn y carchar.

Dywedodd PC Gareth Edwards o Heddlu'r Gogledd: “Rydym yn parhau i ymdrin yn gadarn â throseddwyr fel Pennington ac Ashmore i amddiffyn y rhai sy’n gweithio yn y sector manwerthu a lleihau troseddau manwerthu.

“Rydym yn gobeithio y bydd y dedfrydau o garchar yn tawelu meddyliau busnesau lleol a’u cwsmeriaid ein bod yn cymryd y math hwn o droseddu o ddifrif ac y byddwn yn gwneud popeth o fewn ein gallu i’w hamddiffyn rhag trosedd.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.