Gobaith am ddyfodol cynllun llyfrau Cymraeg am ddim i blant
Gobaith am ddyfodol cynllun llyfrau Cymraeg am ddim i blant
Mae llyfrau rhaglen Dechrau Da yng ngharterfi miloedd o deuluoedd.
Fel arfer maen nhw'n cael eu darparu gan ymwelwyr iechyd.
A phecyn am ddim i rieni pan mae babanod mor ifanc a chwe mis oed.
"Mae pobl yn gallu cael y step cyntaf i ddarllen i'w plant nhw.
"Mae hwnna dim ond yn mynd i fod o fudd i'r plant a'r rhieni.
"Mae'r llyfrau'n ddwyieithog.
"Mae hynna'n gret achos fi'n siarad Cymraeg gyda'r plant adre ac mae gwr fi'n siarad Saesneg.
"Pan mae'r llyfrau'n ddwyieithog, ni'n dau'n gallu darllen i nhw."
Gyda'r drefn ariannu'n newid, roedd disgwyl i grant uniongyrchol BookTrust Cymru ddod i ben ymhen wythnosau a hynny'n peryglu blynyddoedd o fagu arbenigedd meddai'r elusen.
"Mae'r cynllun di bod yn rhedeg ers 25 mlynedd yng Nghymru.
"Mae'r hyfforddiant mae'r ymarferwyr yn cael mewn lle ac maen nhw'n gweithio, wedi selio ar ymarfer da ac ymchwil."
Ond ar ol gwyntyllu'r pryderon yma heddi daeth datganiad gan Lywodraeth Cymru yn dweud y byddai cynllun Dechrau Da yn parhau tu hwnt i fis Mawrth fel bod rhieni yn parhau i gael pecynnau fel y rhain.
Maen nhw'n dweud eu bod yn gweithio gyda BookTrust i gytuno hyn nes bod trefniadau newydd mewn lle.
Adnodd yw'r corff sy'n cydlynu adnoddau addysgiadol gan gynnwys deunyddiau blynyddoedd cynnar.
Mae'r corff wedi dweud eu bod yn ystyried y dulliau mwyaf effeithiol i hybu llythrennedd ar adeg pan mae na bryder am safonau darllen.
"Os chi'n cael rhywbeth fel hwn, rhywbeth lliwgar hyd yn oed os yw plant methu darllen maen nhw'n lico fe.
"Mae 'na fflaps i chwarae gyda nhw."
Ond yn ol Bardd Plant Cymru cryfder cynllun fel Dechrau Da yw magu diwylliant yn y cartre.
A'n bwysg hefyd meddai wrth hybu'r iaith.
"Pwynt Dechrau Da yw bod chi'n rhoi siawns i rieni greu perthynas gyda llythrennedd gyda'u plant adref mewn lle saff.
"Mae gymaint o dai heb lyfrau yn y cartref.
"Mae gymaint o bobl fi'n nabod yn enwedig gyda'r ffaith bod y llyfrau yn ddwyieithog y cael siawns i ddarllen neu weld llyfrau Cymraeg."
Wrth ymateb i eiriau Llywodraeth Cymru heddi dywedodd BookTrust Cymru eu bod yn awyddus i drafod ac edrych am ddatrysiadau gyda dyfodol y cynllun dal yn fantol.
Ond awgrym cliriach erbyn hyn y bydd na ymdrechion i'w ymestyn yn y tymor byr.