Ymosodiad Kabul: Gyrrwr tacsi, 29, o Brydain wedi marw

Sky News

Mae dyn o Brydain a gafodd ei ladd yn ymosodiad Kabul ddydd Iau wedi ei enwi.

Bu farw Mohammad Niazi, ynghyd â'i wraig a dau o'u plant wedi iddo fynd i Afghanistan i'w hachub, adrodda Sky News.

Teithiodd y gyrrwr tacsi 29 oed i Kabul ddydd Mawrth i ddod â'i deulu yn ôl i'r Deyrnas Unedig.

Mae ei fab dwy oed a merch arall yn derbyn triniaeth yn yr ysbyty am eu hanafiadau.

Daw'r cadarnhad wrth i'r awyren olaf oedd wedi ei neilltuo ar gyfer cludo sifiliaid i'r DU adael maes awyr Kabul.

Darllenwch fwy yma.

Llun: Facebook