Caniatáu cais cynllunio i greu llwybr troed trwy dwnnel yn y Rhondda

Twnnel y Rhondda

Roedd dathlu ddydd Iau wrth i gynllun i agor y llwybr cerdded hiraf yn Ewrop trwy dwnnel yn y Rhondda gael ei gymeradwyo gan bwyllgor cynllunio Cyngor Rhondda Cynon Taf.

Agorwyd Twnnel y Rhondda, sydd bron i ddwy filltir o hyd, yn 1890 i gludo glo o Gwm Rhondda i Fae Abertawe i'w allforio, ond cafodd ei gau i drafnidiaeth rheilffordd yn 1968.

Ond erbyn 1981 fe gafodd y ddwy fynedfa eu cau gan wastraff o'r pyllau glo.

Ers tro mae Cymdeithas Twnnel y Rhondda wedi gobeithio gallu creu twnnel cerdded a beicio.

Mae hynny nawr gam yn agosach wedi i bwyllgor cynllunio Cyngor Rhondda Cynon Taf roi sêl bendith i gam cyntaf y cynllun, sef cloddio'r gwastraff o ben Blaencwm o'r twnnel a'i symud i ardal gyfagos ar gyfer gwaith tirlunio.

Dywedodd cadeirydd y pwyllgor cynllunio, y Cynghorydd Ross Williams fod "dathlu yn y galeri cyhoeddus" wrth i'r pwyllgor benderfynu cefnogi'r cynllun.

Uchod: Newyddiadurwr Newyddion S4C yn cael cip y tu ôl i'r lleni a dilyn rhan o'r llwybr tanddaearol yn y cymoedd. 

Ymgyrch codi arian

Dywedodd y cais cynllunio mai dyma fydd "cam cyntaf prosiect a fydd yn y pen draw yn gweld Twnnel y Rhondda yn cael ei ailagor a'i addasu i ddarparu llwybr cerdded a beicio".

"Bydd agor y porth yn helpu i hwyluso unrhyw atgyweiriadau a chynnal a chadw angenrheidiol a bydd yn cynrychioli dechrau symbolaidd prosiect sydd wedi bod yn y cyfnod trafod ers nifer o flynyddoedd."

Bydd mynediad i'r twnnel yn parhau i fod yn gyfyngedig nes bod y gwaith atgyweirio wedi'i gwblhau.

Bydd yr ardal yn cael ei dirlunio fel cam cyntaf er mwyn creu parc gwledig fydd yn cynnwys canolfan ymwelwyr ac atyniadau eraill.

Yn ôl Cymdeithas Twnnel y Rhondda, mae rhan o'r cyllid i ddatblygu'r twnnel eisoes wedi'i addo, "ond bydd angen i'r gymdeithas godi'r gweddill, a bydd yn gwneud hynny drwy amrywiaeth o fentrau codi arian".

Image

Y cam nesaf

Unwaith y bydd y gwaith ym Mlaencwm yn dechrau, y cam nesaf fydd datgelu'r fynedfa arall ym Mlaengwynfi yng Nghwm Afan.

Perchennog y twnnel ar hyn o bryd yw Adran Drafnidiaeth Llywodraeth y DU, ac mae dan reolaeth Priffyrdd Lloegr.  

Mae rheolau perchnogaeth yn gwahardd ei ailagor heb i’r berchnogaeth drosglwyddo i gorff cyhoeddus arall fyddai'n gyfrifol amdano.

Cynhaliodd Balfour Beatty arolwg manwl yn 2018 er mwyn dod o hyd i amcangyfrif cost y cynllun i greu twnnel cerdded a beicio.

Yr amcangyfrif oedd cost o £13.11 miliwn. 

Amserlen

Mae Cymdeithas Twnnel y Rhondda yn credu y byddai angen cyfnod adeiladu o 18 mis i gwblhau'r gwaith, gyda blwyddyn ychwanegol i gymeradwyo’r cynllun.

Nod y cais cynllunio yw datgelu mynedfa Blaencwm i Dwnnel y Rhondda drwy ail-gloddio'r toriad rheilffordd yn rhannol. 

Wrth siarad cyn y cyfarfod, dywedod Cadeirydd Twnnel y Rhondda, Steve Mackey: "Mae hyn wedi bod yn dod ers amser maith.

"Bydd datgelu'r Porth ar ôl 46 mlynedd yn gam mawr ymlaen i'r campwaith hanesyddol pwysig hwn o beirianneg Fictoraidd."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.