Prifysgol Caerdydd: Dod o hyd i DNA anifail o Oes yr Iâ mewn stumog blaidd
Mae gwyddonwyr ym Mhrifysgol Caerdydd yn rhan o dîm sydd wedi llwyddo i echdynnu ac astudio DNA creadur o Oes yr Iâ o stumog blaidd.
Fe gafodd genynnau rhinoseros gwlanog 14,400 mlwydd oed eu canfod y tu mewn i stumog blaidd hynafol a ddarganfuwyd yng ngogledd-ddwyrain Siberia.
Mae’r canfyddiad yn awgrymu bod rhywogaeth y rhinoserosod gwlanog wedi bod yn fyw ac yn iach tan ddiwedd yr Oes Iâ ddiwethaf.
Mae’n debyg felly bod y rhywogaeth wedi marw allan oherwydd cwymp cyflym yn y boblogaeth, yn hytrach na dirywiad araf, meddai’r ymchwilwyr.
“Roedd yn sbesimen anarferol iawn i weithio arno yn y labordy,” meddai Dr David Stanton, ymchwilydd yn Ysgol y Biowyddorau ym Mhrifysgol Caerdydd.
“Fe’i nodwyd i ddechrau fel darn o feinwe llew ogof, felly roedd yn dipyn o syndod pan ddangosodd y dadansoddiad genetig ei fod mewn gwirionedd yn rhinoseros gwlanog.
“Pan ddaeth y dyddiad radiocarbon yn ôl, fe wnaethon ni sylweddoli pa mor unigryw oedd y sbesimen.
"Roedd yr amcangyfrif dyddiad, sy’n agos iawn at pryd y diflannodd y rhinoserosod gwlanog, yn ei gwneud yn hynod werthfawr o ran deall sut a pham y diflannodd cymaint o rywogaethau ar y pryd.”
Pan gafodd y blaidd hynafol o bentref Tumat yng ngogledd-ddwyrain Siberia ei awtopsi, nododd yr ymchwilwyr fod darn bach o feinwe yn ei stumog.
Datgelodd technegau dyddio radiocarbon fod y meinwe yn tua 14,400 mlwydd oed, a nododd dilyniannu (sequencing) DNA mai darn o rhinoseros gwlanog (Coelodonta antiquitatis) oedd hi – un o’r sbesimenau ieuengaf o rhinoseros gwlanog a ddarganfuwyd erioed.
“Roedd hi’n wirioneddol gyffrous, ond hefyd yn heriol iawn, tynnu genom cyflawn o sampl mor anarferol,” meddai’r fyfyrwraig Sólveig Guðjónsdóttir, prif awdur yr astudiaeth, a gyflawnodd y gwaith fel rhan o’i thesis meistr ym Mhrifysgol Stockholm.
Cymharodd y tîm ymchwil genom rhinoseros Tumat â dau genom arall o ansawdd uchel o sbesimenau hŷn, sy’n dyddio i tua 18,000 a 49,000 mlwydd oed.
Roedd y cymariaethau hyn yn caniatáu i’r ymchwilwyr archwilio sut y newidiodd amrywiaeth genom, lefelau mewnfridio, a nifer y mwtadiadau niweidiol dros amser yn ystod yr Oes Iâ ddiwethaf.
Ni ddarganfuwyd unrhyw arwyddion o ddirywiad genetig wrth i’r rhywogaeth agosáu at ddifodiant.
Mae hyn yn awgrymu bod y rhinoseros gwlanog yn ôl pob tebyg wedi cynnal poblogaeth sefydlog a chymharol fawr tan ychydig cyn i’r rhywogaeth ddiflannu.
