Penwythnos tyngedfennol i glybiau rygbi Cymru yn Ewrop
Penwythnos tyngedfennol i glybiau rygbi Cymru yn Ewrop
Chwarae tair, colli tair.
Ydy, mae bywyd ym mhrif gystadleuaeth rygbi Ewrop yn anodd ar y gorau a'r golled gartref yn erbyn Pau nos Sadwrn yn brifo.
Dyw hi ddim ar ben i'r Scarlets eto gyda'r pedwar uchaf yn camu ymlaen i'r 16 olaf a'r tim sy'n 5ed yn disgyn i'r Cwpan Her bydd y gêm yn erbyn Northampton y penwythnos nesaf yn allweddol.
"Maen nhw'n whare'n arbennig.
"Mae'n mynd i fod yn anodd dros ben ond lle arbennig i whare a ni 5ed yn y tabl fel mae hi felly mae rhywbeth 'da ni whare am.
"Os ni'n gweld rhywbeth tyngedfennol diwedd yr wythnos allwn ni weud, reit, dyma beth ni'n chaso."
Y Gweilch oedd y rhanbarth cyntaf o Gymru i sicrhau eu lle yn rownd nesaf y Cwpan Her er colli i Zebre o'r Eidal.
Byddan nhw'n chwarae eu gêm grŵp olaf yma ar Gae'r Bragdy yn erbyn y ceffylau blaen, Montpellier.
Gall buddugoliaeth weld tîm Mark Jones yn gorffen ar frig Grŵp 1.
Hefyd yn sicr o'u lle mae Caerdydd wedi buddugoliaeth a phwynt bonws yn erbyn Racing.
Mae'r sefyllfa oddi ar y cae yn llai sicr gyda'r dyfalu yn parhau ynglŷn â pherchnogion newydd.
Heddiw oedd y dyddiad cau ar gyfer buddsoddwyr posib.
"Mae'n ddiddorol bod cefnogwyr Caerdydd wedi dweud 'dyn nhw'm isio cwmni Y11 i brynu Caerdydd.
"Pam? Nhw sy'n berchen y Gweilch.
"Mae nifer wedi bod yn proffwydo, wel, mae'n gwneud synnwyr on'd yw e?
"Mae angen cwtogi o bedwar rhanbarth i dri, mae Y11 yn berchen y Gweilch a lot yn dweud mai'r syniad hawddaf fyddai i Y11 gymryd drosodd Caerdydd.
"Diddorol heddi bod y cefnogwyr yn gweud, na, dim diolch.
"Prif reswm am hynny yn ôl nhw, 'dyn nhw ddim isio cael eu gweld fel y clwb neu'r rhanbarth sy'n gyfrifol am farwolaeth rhanbarth arall.
"Diddorol bod nhw'n dweud hyn ond fi dal yn teimlo mai diwedd y gan yw'r geiniog."
Ymhellach i'r dwyrain ac wedi cyfnod llewyrchus dros y Dolig colli eto oedd hanes y Dreigiau a hynny'n drwm yn erbyn Benetton o 74 i 21.
Eto i gyd, gallen nhw gamu 'mlaen i'r rownd nesaf tasen nhw'n curo Newcastle nos Wener.
Penwythnos pwysig mewn mwy nag un ystyr am mai dyma'r cyfle olaf i chwaraewyr greu argraff cyn i Steve Tandy ddewis carfan ar gyfer pencampwriaeth y 6 Gwlad gan obeithio na fydd materion oddi ar y cae yn taflu cysgod dros y bencampwriaeth.