35 mlynedd o garchar i ddyn am geisio lladd ei ferch fach

35 mlynedd o garchar i ddyn am geisio lladd ei ferch fach

Dyma'r tad na'th daflu ei fabi bach at deledu cyn ei gadael mewn gwely ar ei phen ei hun yn gwaedu ac a chleisiau ar ei hwyneb.

Ar ôl hynny, anfonodd Rhys Jamieson neges i fam y plentyn yn ymddiheuro.

"Nes i ei thaflu" dywedodd. "Fe golles i reolaeth".

Clywodd y llys bod y ferch fach gafodd ei darganfod gan ei theulu mewn tŷ yn Y Ferwig wedi'i chludo i'r ysbyty gydag anafiadau oedd yn peryglu bywyd.

Roedd gan y babi na allwn ni ei henwi am resymau cyfreithiol anaf difrifol i'w hymennydd.

Dywedodd mam y babi wrth y llys na fyddai bywydau'r teulu fyth yr un peth.

"Rwyt ti'n ddim ond person afiach," meddai wrth gyfeirio at Jamieson na'th wrthod dod i'r llys i gael ei ddedfrydu.

Yn ei dagrau, dywedodd y byddai'r effaith ar ei merch yn para am byth.

Clywodd y llys y bydd angen gofal arni am weddill ei hoes a bod apwyntiadau ysbyty wedi dod yn arfer poenus i'r teulu.

Cyn i Jamieson gael ei arestio, clywodd y llys iddo ddweud... "Be sydd yn poeni fi yw anaml iawn mae digwyddiad fel hyn yn dod allan o nunlle.

"Bydd eisiau ymchwiliad i sicrhau a oedd modd rhagweld bod problem fel hyn yn mynd i ddigwydd yn y teulu yma ac oes unrhyw beth gallai'r awdurdodau wedi'i wneud i drio rhwystro fe rhag digwydd.

"Dyw hwnna'm yn cymryd y cyfrifoldeb oddi ar y troseddwr a fi'n falch o weld dedfryd fel hyn."

Mae'r achos wedi ysgwyd y gymuned.

"Anghredadwy, fi methu credu'r peth ac mae'n mynd i newid bywyd y teulu.

"A bywyd y plentyn am byth. Beth yw'r effaith ar y plentyn?

"Mae'r gymuned yn mynd i fod yn gefnogol iawn a helpu'r teulu fel maen nhw'n gallu."

Na'th y barnwr Paul Thomas KC alw Jamieson yn lwfrgi hunandosturiol.

Roedd hon yn weithred dideimlad, gwbl ddychrynllyd meddai gan ychwanegu nad oedd e'n difaru dim am drio lladd ei blentyn.

Ychwanegodd y barnwr na fydd e'n cael bod o gwmpas plant fyth eto wrth iddo ddedfrydu Rhys Jamieson i 35 mlynedd dan glo.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.