'Mwy o amlygrwydd' i raglenni S4C ar iPlayer fel rhan o gytundeb newydd

S4C Yr Egin Caerfyrddin

Fe fydd "mwy o amlygrwydd" i raglenni S4C ar BBC iPlayer wedi cytundeb newydd rhwng y ddau ddarlledwr.

Fel rhan o'r bartneriaeth ffrydio newydd fe fydd cynnwys Cymraeg S4C yn ymddangos "yn rheolaidd" ar brif dudalen hafan BBC iPlayer yng Nghymru.

Hefyd fe fydd cynnwys "nodedig" S4C gan gynnwys dramâu a darllediadau o chwaraeon byw yn ymddangos ar hafan BBC iPlayer ledled y DU am y tro cyntaf, meddai S4C.

Mae dros 15 miliwn o gyfrifon yn gwylio BBC iPlayer bob wythnos ar gyfartaledd, gyda dros 700,000 o'r rheiny yng Nghymru.

Bydd y newid i'w weld ym mis Ebrill, gan gael ei gyflwyno'n raddol i brif hafan BBC iPlayer.

Dywedodd Geraint Evans, Prif Weithredwr S4C ei fod yn wych gweld cynnwys y sianel yn cael "gofod blaenllaw" ar un o lwyfannau gwylio mwyaf y DU.

"Ry’n ni'n falch iawn o'r trefniant newydd gyda BBC iPlayer sydd yn mynd i sicrhau mwy o amlygrwydd i gynnwys S4C - o chwaraeon a dramâu i ddigwyddiadau byw a chynnwys i blant," meddai.

"Gyda nodweddion newydd fel is-deitlau Cymraeg a Saesneg, ffrydiau byw ychwanegol a phersonoleiddio gwell, bydd y profiad i’r gwyliwr yn gyfoethocach fyth.

"Wrth i’n gwylwyr droi’n gynyddol at wylio digidol, un o'n prif amcanion yw sicrhau bod cynnwys S4C ar gael ar draws y platfformau, a bydd hi’n wych i weld cynnwys Cymraeg yn cael gofod blaenllaw ar un o’r llwyfannau gwylio mwyaf poblogaidd, yn ogystal ag ar ein gwasanaeth ffrydio, Clic."

'Ymrwymiad'

Hefyd yn rhan o'r cytundeb ar iPlayer bydd:

1) Nifer o ffrydiau byw o ddarllediadau chwaraeon amrywiol S4C, gan gynnwys rhai gyda dewis o sylwebaeth yn Saesneg, yn ogystal â darllediadau o ddigwyddiadau cenedlaethol gan gynnwys Eisteddfod yr Urdd, yr Eisteddfod Genedlaethol, a Sioe Frenhinol Cymru.

2) Mwy o bersonoli i ddefnyddwyr - gyda gwylwyr rheolaidd S4C yn gweld ystod ehangach o ddewis rhaglenni Cymraeg ar eu canllaw rhaglenni.

3) Is-deitlau Cymraeg a Saesneg ar gyfer rhaglenni S4C.

4) Hysbysebion sianel fyw S4C yn cael eu cynnwys (yn amodol ar gymeradwyaeth rheoleiddiol).

Dywedodd Garmon Rhys, Cyfarwyddwr Dros Dro BBC Cymru Wales: “Mae’r cytundeb hwn yn atgyfnerthu ein hymrwymiad i wasanaethu cynulleidfaoedd yng Nghymru ac ar draws y DU wrth iddynt chwilio am gynnwys ar lwyfannau digidol."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.