Wrecsam i herio Ipswich yn rownd nesaf Cwpan yr FA

Wrecsam v Nottingham Forest

Fe fydd yr unig glwb o Gymru sydd ar ôl yng Nghwpan yr FA eleni'n herio Ipswich yn y rownd nesaf.

Bydd Wrecsam yn chwarae eu gêm gartref ar y Stok Cae Ras yn erbyn y tîm o ddwyrain Lloegr ym mhedwaredd rownd y gystadleuaeth.

Bydd holl gemau'r rownd honno'n cael eu chwarae ar benwythnos 14 & 15 Chwefror.

Mae Ipswich hefyd yn chwarae yn yr un adran â Wrecsam, gyda'r ddau dîm yn cael gêm gyfartal 0-0 yn yr adran honno pan wynebodd y ddau ei gilydd am y tro diwethaf ym mis Tachwedd.

Fe wnaeth Ipswich ddisgyn o Uwch-gynghrair Lloegr y llynedd a bellach maen nhw'n y trydydd safle yn y Bencampwriaeth, bedwar pwynt uwchben Wrecsam sydd yn nawfed.

LLywddodd Wrecsam i gyrraedd y bedwaredd rownd yn dilyn buddugoliaeth o 4-3 ar giciau o'r smotyn yn erbyn Nottingham Forest nos Wener ddiwethaf, ar ôl gêm gyfartal 3-3 yn dilyn amser ychwanegol.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.