Llwyddiant eto i gyfres ddrama Adolesence yn y Golden Globes

Owen Cooper

Y gyfres ddrama deledu Adolesence oedd un o brif enillwyr y Golden Globes eleni gan gipio pedair gwobr nos Sul.

Mae'r gyfres yn edrych ar bwysau cyfryngau cymdeithasol a gwrywdod gwenwynig (toxic masculinity) ar fechgyn ifanc.

Fe enillodd yr actor ifanc 16 oed Owen Cooper yn y categori Actor Teledu cynorthwyol. Dywedodd wrth y gynulleidfa ei fod "dal yn dysgu bob dydd".

Cafodd Stephen Graham o'r gyfres noson lwyddiannus hefyd gan ddod i'r brig yn y categori Actor Gorau mewn cyfres gyfyngedig, ac fe wnaeth Erin Doherty hefyd ennill am ei rôl hi fel actores yn y gyfres.

Mae'r Golden Globes yn cael ei weld fel cam mawr ar gyfer yr Oscars yn ddiweddarach yn y flwyddyn. Ond yn wahanol i'r Oscars mae rhaglenni teledu hefyd yn cael eu gwobrwyo. 

Image
Matthew Rhys a Keri Russell
Matthew Rhys a Keri Russell. Llun: Reuters / Daniel Cole

Er i'r actor o Gymru Matthew Rhys a'i bartner Keri Russell gael eu henwebu am eu gwaith actio yn The Beast in Me a Diplomat chafon nhw ddim lwc yn y gwobrau.

Cafodd y ffilm One Battle After Another noson dda hefyd gan ennill mewn pedwar categori.

Er na chafodd Leonardo DiCaprio lwyddiant unigol daeth ei ffilm ias i'r brig am y ffilm gerdd neu gomedi orau a chafodd y cyfarwyddwr ac un o'r actorion Golden Globe am eu rhan nhw yn y ffilm.  Fe enillodd y ffilm hefyd yn y categori sgript ffilm.

Y prif enillwyr eraill oedd yr actor 30 oed Timothée Chalamet a gurodd y wobr Actor Gorau mewn ffilm gerdd neu gomedi.

Y Wyddeles Jessie Buckley gafodd y wobr Actores orau mewn drama ar gyfer Hamnet.

Ymhlith yr enillwyr eraill oedd Wagner Moura, Rose Byrne, Teyana Taylor, Stellan Skarsgård, Paul Thomas Anderson, Rhea Seehorn, Noah Wyle a Seth Rogen. 

Llun: PA

 

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.